Afanc

Afanc

Beaver. Castor

Mae afancod yn rhywogaeth allweddol. Golyga’r term rhywogaeth allweddol ei fod yn hanfodol ar gyfer strwythur cyffredinol a gweithrediad ecosystem, gan ddylanwadu ar ba fathau eraill o blanhigion ac anifeiliaid sy’n ffurfio’r ecosystem honno. Gyda genau pwerus a dannedd cryf, bydd afancod yn cwympo coed i adeiladu cartrefi (a elwir yn lodge) ac argaeau, gan newid eu hamgylchedd mewn ffyrdd na all llawer o anifeiliaid eraill ei wneud. Mae afancod yn creu ac yn cynnal gwlyptiroedd trwy gynyddu’r lefel trwythiad yn eu hardal. Ecosystemau pwysig ond bregus yw gwlyptiroedd, yn amddiffynfeydd rhag llifogydd hanfodol sy’n amsugno gormodedd o ddŵr yn ystod glawiad trwm, gan ei ryddhau’n raddol. Mae gweithgaredd afancod yn hyrwyddo hunan-buro dŵr, yn niwtraleiddio dŵr ffo asidig ac yn creu sinciau llygryddion. Mae afancod hefyd yn creu coedlannau trwy eu gweithgareddau cwympo coed, gan ddarparu cynefinoedd i blanhigion ac anifeiliaid mewn ardaloedd coetir.

Llysysyddion yw afancod a nhw yw’r cnofilod ail fwyaf yn y byd. Yn werthfawr ar gyfer eu pelenni, eu cig a’u chwarennau arogl, cafodd afancod eu hela i ddifodiant yn y DU erbyn yr 16eg ganrif.

Mae chwedlau yn sôn am afanc gwrthun a oedd yn byw yn nyffryn Conwy, yn dwyn da byw ac yn gorlifo’r ardal. Galwodd merch ifanc leol ef allan o’r dŵr trwy ganu hwiangerdd, ac fe syrthiodd i gysgu ar unwaith. Rhuthrodd pentrefwyr ymlaen, gan ei rwymo â chadwyni cyn ei daflu i Lyn Ffynnon Las lle mae’n byw hyd heddiw.

Statws yng Nghoetir Anian: Absennol, ond gobeithir ailgyflwyno yn y dyfodol.