GWERSYLLOEDD DRWS AGORED

Dyma ddiwrnod gorau fy mywyd fel oedolyn.

Aelod o wersyll Changes UK

Cynllunir ein Gwersylloedd Drws Agored ar gyfer pobl sy’n profi sefyllfaoedd anodd yn eu bywydau. Maent yn darparu amser gwerthfawr y tu allan i fywyd pob dydd, gan gynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddysgu, goresgyn rhwystrau a rhyngweithio â natur mewn lleoliad gwyllt unigryw. Ymhlith y grwpiau rydyn ni’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd mae’r rhai sy’n gwella ar ôl dibyniaeth, ceiswyr lloches a gofalwyr ifanc.

Paratoi pesto garlleg gwyllt
Prosesu carw
Coginio

Cyniga ein Gwersylloedd Drws Agored le diogel lle cefnogir cyfranogwyr i ddatblygu ymdeimlad dwfn o gysylltiad â natur, ei gilydd a nhw eu hunain. Seilir gweithgareddau’r gwersyll ar adeiladu cymuned gefnogol sydd, yn ei dro, yn meithrin ymdeimlad o rymuso, annibyniaeth, gwytnwch, llonyddwch a chyflawniad. Amrywia’r gweithgareddau a gynigir yn ôl anghenion y grŵp ond gallant gynnwys gemau ymwybyddiaeth synhwyraidd, chwilota am fwyd, creu cysgod, cynnau tân trwy ffrithiant, gwneud bowlenni, cerfio llwy a gwehyddu basgedi. Mae amser wedi’i neilltuo ar gyfer cysylltu a myfyrio wrth y tân trwy gerddoriaeth, crefftio, adrodd straeon a sgwrsio.

Mae hyn wedi agor fy meddwl lawer mwy. Rwyf bob amser wedi caru natur ond mae’r profiad hwn wedi rhoi perspectif arall imi, ar fy mherthynas â mi fy hun a natur a hyd yn oed gyda phobl eraill. Rwy’n credu y gall y prosiect helpu eraill gan ei fod wedi fy helpu i.

Aelod o wersyll Changes UK

Fe wnaeth y profiad hwn fy helpu i ddod i adnabod fy hun a fy nghyfoedion – fe helpodd fi i sylweddoli y gallaf fod yn hapus ac y gallaf gael bywyd anhygoel.

Aelod o wersyll Changes UK