RHAGLEN YSGOLION CYNRADD

Wrth fy modd yn gweld yr holl wenau ar wynebau’r disgyblion – yn enwedig pan lwyddon nhw i gynnau tân yn y pen draw. Dysgais hefyd bwysigrwydd rhoi’r mathau hyn o brofiadau awyr agored anhygoel i ddisgyblion o ardaloedd difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Diolch yn fawr iawn.

Athrawes Ddosbarth, Ysgol Maesyrhandir

Rydym yn cynnig rhaglen cysylltiad natur tair blynedd i ysgolion cynradd lleol. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd disgyblion yn ymweld â’n safle am ddiwrnod cyfan i ddysgu am gynefinoedd. Yna byddwn yn ymweld â’r disgyblion yn yr ysgol i ddangos iddynt sut i blannu mes, archwilio cylch bywyd coeden dderw a darganfod y straeon y tu ôl i goed derw enwog. Yn nhymor y gwanwyn, mae disgyblion yn mwynhau prosiect natur a chelf greadigol pedwar diwrnod dan arweiniad artist. Dyma fideo sy’n arddangos un o’n prosiectau.

Yn ail flwyddyn y rhaglen mae’r disgyblion yn treulio diwrnod ym Mwlch Corog yn dysgu sgiliau byw’n wyllt. Yn olaf, yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen, maent yn dychwelyd i’n safle unwaith eto i blannu’r coed derw y gwnaethant eu tyfu o fes ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.

Heddiw cefais amser gwych yn dysgu am natur a sut i gynnau’r tân ond fy hoff beth oedd creu tân fel grŵp. Rwyf hefyd wedi dysgu gallwch ymddiried ynof gyda thân. Mae wedi bod yn amser hyfryd yma. Diolch yn fawr iawn.

Disgybl, 10 oed, Ysgol Gynradd Penrhyncoch

Y trip ysgol orau erioed.

Disgybl, 7 oed, Ysgol Bro Hyddgen - Campws Cynradd

Mae wedi bod yn hyfryd dod i adnabod y plant yn well yn yr awyr agored – pwy sy’n hyderus a’r rhai sy’n llai hyderus. Diolch am ddiwrnod rhagorol o ddysgu cynnau tân ac am fwyd. Diolch i’r hyfforddwyr am gynllunio diwrnod arbennig yn llawn hwyl. Edrych ymlaen at y tro nesaf.

Athrawes Ddosbarth, Ysgol Penrhyncoch