SWYDDI
- ARLWY-YDD GWERSYLLOEDD PRESWYL
Oes gennych chi sgiliau arlwyo? Hoffech chi weithio gyda phobl ifanc mewn lleoliad hardd? Allech chi goginio i grŵp yn yr awyr agored ar dân agored?
Rydym yn chwilio am rywun i ddarparu ar gyfer ein gwersylloedd preswyl dros yr haf. Ymunwch â’n tîm cyfeillgar ar gyfer 2 x gwersyll preswyl 5 diwrnod ar ein safle hardd ger Machynlleth.
Cynhelir y gwersylloedd rhwng 19eg – 23ain o Fehefin a’r 3ydd – 7fed o Orffennaf.
Darperir yr holl offer arlwyo.
£150 y dydd, ynghyd ag amser ychwanegol â thâl ar gyfer cynllunio bwydlenni a phrynu bwyd.
Mae gwersylla preswyl ar gael os hoffech chi.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at clarissa.richards@coetiranian.org erbyn 19eg o Fai.