Bwlch Corog
Prynwyd Bwlch Corog, a oedd gynt yn rhan o fferm Cefn Coch, ar gyfer Coetir Anian ym mis Mai 2017. Rydym yn dal y tir ar brydles 125 mlynedd gan Coed Cadw, a brynodd y rhydd-ddaliad yn dilyn ymdrech codi arian ar y cyd.
350 erw (142 hectar) sydd i’r tir. Rhostir agored ye ei rhan fwyaf, wedi’i ddominyddu gan laswellt y gweunydd (Molinia caerulea), gydag ardaloedd cymharol fach o ffridd, coetir hynafol a phlanhigfeydd llarwydd. Mae dwy nant yn ymuno â’i gilydd yng nghornel ogleddol y tir, gan fwydo i mewn i Afon Llyfnant ym mhentrefan Glaspwll, milltir i lawr y dyffryn.
Er ei fod gynt yn dir fferm, ni chafodd Bwlch Corog ei bori’n am oddeutu chwe blynedd cyn 2017. Ar hyn o bryd, mae gwartheg Ucheldir, Gwyn Cymreig a Dexter yn pori’r tir yn ystod misoedd yr haf, ac mae gre fach o ferlod Carneddau yn ei grwydro drwy gydol y flwyddyn.
Ein nodau ar gyfer Bwlch Corog yw i’r rhostir sydd ar hyn o bryd dan oruchafiaeth Molinia ddychwelyd i fosaig fioamrywiol o orgors, rhostir a glaswelltir, i orchudd coetir brodorol gynyddu mewn ardaloedd priodol, ac i’r coetir hynafol presennol aros mewn cyflwr da, gyda choed o wahanol oedrannau ac ardaloedd agored.
Y prif agweddau ar ein rheolaeth o’r tir yw:
- ail-wlychu mawn trwy rwystro’r rhwydwaith o ffosydd draenio a gloddiwyd i ddraenio’r tir
- lleihau goruchafiaeth glaswellt y gweunydd (Molinia) trwy bori gyda gwartheg a merlod ynghyd â thorri mecanyddol
- plannu niferoedd bach (ychydig gannoedd bob blwyddyn) o goed brodorol mewn grwpiau bach ar draws y safle, i ddarparu ffynonellau hadau yn y dirwedd ucheldirol gymharol ddi-goed
- rheoli’r rhedyn sy’n bygwth gorlethu rhai ardaloedd
- cael gwared ar y blanhigfa llarwydd yn raddol a chaniatáu i’r ardal ddychwelyd i goetir llydanddail brodorol
Rydym yn obeithiol y bydd adfer cynefinoedd yn cynnig yr amodau cywir ar gyfer dychwelyd rhai o’r rhywogaethau anifeiliaid a fyddai wedi bod yn bresennol yn y gorffennol. Gellir cyflawni hyn trwy gytrefu naturiol, er enghraifft disgwylir y bydd rhywogaethau adar yn cael eu denu wrth i’r cynefinoedd gael eu hadfer. Byddwn hefyd yn ystyried rhaglenni ailgyflwyno, yn dilyn ymchwil manwl i ddichonoldeb. Un posibilrwydd o’r fath oedd llygoden bengron y dŵr (Arvicola terrestris), ond darganfuwyd poblogaeth bresennol annisgwyl yn ystod arolygon i asesu dichonoldeb ailgyflwyno. Mae bele’r coed (Martes martes) wedi’u gweld sawl gwaith ers 2024, yn dilyn rhaglen ailgyflwyno mewn mannau eraill yng Nghanolbarth Cymru yn ystod y 2010au. O bosib y bydd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) yn bosibilrwydd arall, wrth i ymdrechion i’w hailgytrefu yng Nghymru barhau.
Ochr yn ochr â rheoli’r tir er lles natur, rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu archwilio a throchi eu hunain yn y tir. I’r perwyl hwn, mae llwybrau troed presennol wedi’u gwella, a llwybrau newydd wedi’u creu, i ganiatáu i ymwelwyr gael mynediad at gymaint o’r tir â phosibl.
Beth sydd i enw?
Ar ôl gwneud tipyn o waith ymchwil, credwn ein bod wedi dod o hyd i esboniad ar gyfer yr enw Bwlch Corog.
Mae ‘bwlch’ yn esbonio’i hunan – llwybr mordwyadwy dros grib.
Fodd bynnag, mae ‘Corog’ ychydig yn anoddach i’w ddehongli. Ymddengys mai Corf oedd yr enw yn wreiddiol, nid Corog – â Corf yn enw ar nant. Cyfeirir ato yn ‘The Place Names of Cardiganshire.’Â
Mae yna hefyd gofnod o’r enw sy’n mynd yn ôl i oes y tywysogion.
Ond pam rydyn ni nawr yn defnyddio ‘Corog’? Fel gyda phob iaith, mae geiriau Cymraeg yn newid dros amser. Dros y canrifoedd, mae’n ymddangos bod Corf wedi newid i Corof ac yna i Coro mewn Cymraeg llafar (sy’n newid morffolegol anarferol, ond gall ddigwydd). Yna ychwanegwyd -g (sy’n anarferol ond gall ddigwydd). Dyna sy’n rhoi Corog.
Felly does dim ystyr i ‘Corog’ fel y cyfryw – datblygiad o Corf ydyw yn y pen draw. Diffiniad y geiriadur ar gyfer Corf yw ‘dibyn coediog ger afon.’
Felly, ystyr Bwlch Corog yw ‘bwlch y dibyn coediog ger yr afon.’
