Wrth i Tilhill Forestry lunio cynlluniau ar gyfer Maesycilyn, ystyria Coetir Anian sut y gallai cydweithio â’n cymdogion greu dyfodol mwy amrywiol i’r safle hwn.

Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â Bwlch Corog a’r cyffiniau yn ymwybodol o Faesycilyn, yr ardal goedwigaeth sy’n amlwg yn y dirwedd wrth ymyl Glaspwll. Mae’r ardal 950 erw bellach yn cynnwys Brwyno yn nalgylch Melindwr. Mae’n eiddo i’r cwmni buddsoddi Gresham House, ers iddynt gaffael Forestry Investment Management yn 2018, ac mae Tilhill yn parhau i’w reoli.

Mae cynllun drafft wedi’i greu ar gyfer rheoli Maesycilyn fel rhan o’r broses o ardystio ei fod yn cael ei reoli’n gynaliadwy, trwy’r ‘UK Woodland Assurance Standard.’ Fel cymydog, ymgynghorwyd â’r elusen ar y cynllun drafft, a theimlwn yn gryf y dylid cynnwys barn y gymuned leol yn ein hymateb i Tilhill.

Mae’r cynllun drafft ar gyfer Maesycilyn yn dangos cynllun torri coed ynghyd â’r rhywogaethau arfaethedig ar gyfer ailblannu’r ardaloedd cwympo coed am y cyfnod 2021-2041. Bydd yr ailblannu bron yn gyfan gwbl â rhywogaethau conwydd masnachol, pyrwydden Sitca yn bennaf.

Cyniga Coetir Anian integreiddio mwy o gynefinoedd naturiol i’r cynlluniau ar gyfer Maesycilyn, o ystyried ei leoliad ochr yn ochr â Chwm Llyfnant, sy’n safle gwarchodedig, a gyda thri eiddo cyfagos o amgylch y goedwigaeth sydd â diddordeb mewn ffermio adfywiol a chadwraeth natur. Yn ogystal â Bwlch Corog, mae’r cymdogion yn cynnwys gwarchodfa Dynyn sy’n eiddo preifat a gwarchodfa Allt Ddu yr RSPB, ill dau’n cael eu rheoli â phori cadwraethol. Mae Maesycilyn yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at fywyd gwyllt a hamdden lleol trwy alluogi cysylltedd ar draws y dirwedd.

Cynigion yr elusen yw:
• Adfer ardaloedd Coetir Hynafol yn nalgylch Llyfnant i goetir brodorol.
• Cynyddu coetir neu rostir brodorol, naill ai ar draws y safle cyfan, neu mewn rhai ardaloedd megis ger cyrsiau dŵr a pharthau terfyn y goedwigaeth.
• I alluogi cysylltedd trwy Faesycilyn, neu ran ohono, i lysysyddion deithio rhwng y tri eiddo arall.

Nid yw’r cynnig yn effeithio ar y cynllun torri coed ar gyfer y clystyrau presennol o goed conwydd, felly ni fyddai’n effeithio ar gynhyrchu pren am 30 i 40 mlynedd. Y syniad yw ailstocio trwy aildyfiant naturiol ac integreiddio pori yn raddol, dros rywfaint, neu’r cyfan o dir y goedwigaeth.

Gwyddom fod gan bobl gysylltiad cryf â’u tirwedd leol, a chredwn fod angen i sefydliadau tirfeddianwyr mawr ystyried safbwyntiau’r gymuned leol. Os ydych yn byw yn lleol ac yn dymuno i’ch barn gael ei chynnwys yn ymateb Coetir Anian i Tilhill ddiwedd Ionawr 2022,  cysylltwch â ni yma.