Rydyn ni’n ffarwelio â dau o’n staff ym mis Mawrth – gyda Lora a Neil yn gadael Coetir Anian.

Mae Lora, Swyddog Prosiect Coetir Anian, a Neil, Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau, wedi bod gyda ni ers 2023. Rhyngddynt, maent wedi bod yn gyfrifol am y mwyafrif o’r gwaith ar y tir ei hunan: cynllunio a rheoli ein safle Bwlch Corog, monitro a chofnodi ecolegol, cynllunio a chynnal diwrnodau gwirfoddolwyr a chynorthwyo i redeg rhaglenni ieuenctid ac ymweliadau safle. Bydd y ddau yn golled fawr i ni fel cydweithwyr, ac fel ffrindiau.

Mae Lora wedi derbyn rôl hynod gyffrous fel Ceidwad ar ynys Handa (Eilean Shannda) yn yr Alban – gwarchodfa bywyd gwyllt a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur yr Alban oddi ar arfordir gogledd-orllewin pellaf yr Ucheldiroedd (mor bell i’r gogledd, y bydd hi rhyw 65km ymhellach o’r ffin rhwng yr Alban a Lloegr nag yw Bwlch Corog). Mae Lora wedi treulio amser ar Handa fel Ceidwad Cynorthwyol yn y gorffennol, ond y tro hwn hi fydd wrth y llyw – yn rheoli’r ynys a thîm o wirfoddolwyr. Ychydig yn fwy na dwywaith arwynebedd Bwlch Corog, mae Handa yn hafan go iawn i adar y môr – yn gartref i ddegau o filoedd yn ystod y tymor nythu gan gynnwys llursod, sgiwennod mawr, ac un o gytrefi gwylogod mwyaf y DU. Mae gan Lora hefyd siawns dda o weld morloi, dolffiniaid, morfilod pigfain a hyd yn oed orca wrth iddi gyflawni ei dyletswyddau dyddiol ar yr ynys a fydd yn gartref iddi am y chwe mis nesaf.

Mae Lora yn golled fawr i ni, ond mae ei rôl newydd yn gyfle anhygoel – ac rydym yn gwbl sicr y bydd yn ei berfformio’n wych.

Nid yw Neil yn mynd mor bell. Ymunodd â ni ar secondiad o RSPB Ynys-Hir – gwarchodfa hyfryd dim ond tair milltir i lawr y ffordd o Fwlch Corog. Yn anffodus i ni, mae ei secondiad bellach yn dod i ben, a rhaid inni ei roi yn ôl. Mewn tipyn o gyd-ddigwyddiad, bydd e nawr yn gweithio gyda chyn-Geidwad ynys Handa yn Ynys-hir. Mae wedi gweithio’n galed iawn yn ysgrifennu cynllun rheoli newydd ar gyfer Bwlch Corog fel y byddwn yn gallu parhau i reoli’r tir mor ddi-dor â phosibl, ond diolch byth mae hefyd wedi cytuno i ddod yn ôl atom ar ei liwt ei hun pan fydd amser yn caniatáu, felly nid ydym yn colli ei ehangder syfrdanol o wybodaeth ac arbenigedd yn gyfangwbl.

Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith ac am eu cwmni.

Diolch o galon i chi’ch dau, a phob lwc!

Mae’r erthygl hwn hefyd yn ymddangos yng nghylchlythyr Ebrill 2025.