GWERSYLLOEDD IEUENCTID

Cofleidiodd y myfyrwyr y profiad yn llawn ac wrth i’r wythnos fynd heibio gwelsom rai newidiadau gwych. . . Erbyn diwedd yr wythnos roedd y myfyrwyr yn ‘llwyth’. . . Mae hwn yn brosiect y mae angen i bob myfyriwr ledled Cymru ei brofi.

Swyddog Lles Ysgol, Powys

Pob haf, gwahoddir chwe grŵp o ysgolion uwchradd ac amryw o rwydweithiau cymorth ieuenctid i Fwlch Corog ar gyfer wythnos o Wersyll Gwyllt. Mae’r Gwersylloedd Gwyllt wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a allai elwa o’r profiad dwfn o fod yn agos at natur, dysgu sgiliau newydd a magu hunanhyder. Ni chaniateir unrhyw ffonau symudol nac unrhyw dechnolegau digidol eraill yn ystod yr wythnos ac mae ffocws cryf ar ymwybyddiaeth ofalgar a lles. Mae’r myfyrwyr yn mwynhau gwersyll preswyl pum niwrnod lle maen nhw’n dysgu sgiliau ymarferol fel cynnau tân, chwilota am fwyd, tracio a choginio dros danau gwersyll yn ogystal â datblygu eu hunan-barch, sgiliau meithrin perthynas, sgiliau cyfathrebu a hunan- hyder. Darperir yr holl offer gwersylla gennym fel nad oes unrhyw fyfyriwr wedi’i eithrio.

Diolch am fy mhrofiad gwersylla cyntaf. Diolch am y caneuon ac am ddysgu i mi, os ydw i’n isel fy ysbryd, i fynd i fyd natur a’r coed a byddan nhw’n fy helpu.

Disgybl Blwyddyn 8

Dydw i ddim wedi gweld eisiau fy ffôn unwaith. Rydw i wedi adeiladu cyfeillgarwch a dysgu pethau newydd.

 

Disgybl Blwyddyn 9

Roedd y ffocws ar weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar a dychwelyd i natur yn wych er mwyn ail-gysylltu’r bobl ifanc â’r awyr agored ac i ffwrdd o dechnoleg. Roedd lleoliad y safle yn wych.

 

Pennaeth Blwyddyn, Powys