TIR
Chwraea Coetir Anian rhan flaenllaw yn y gwaith o adfer ecosystemau yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r prosiect yn adfer cynefinoedd ac yn creu’r amodau i fwy o amrywiaeth a thoreth o fywyd gwyllt ffynnu. Ar hyn o bryd mae’r safle yn gorchuddio 350 erw (140 hectar) ym Mwlch Corog yn rhan ogleddol Mynyddoedd Cambria. Wrth i Ddegawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau 2021 – 2030 gychwyn, nod Coetir Anian yw chwarae’r rhan lawnaf y gallwn trwy adfer cynefinoedd dros ardal ehangach a chynyddu bywyd gwyllt.
EGWYDDORION RHEOLI
Mae’r egwyddorion sy’n llywio sut mae ein tir yn cael ei reoli yn seiliedig ar y syniadau sylfaenol hyn:
Y rheolaeth leiaf posib er mwyn caniatáu i’r safle esblygu’n naturiol.
Ymyriadau rheoli cynnar i sefydlu amodau sy’n ffafriol i ddatblygiad ecosystem naturiol.
Arteffactau fel ffosydd a ffensys yn cael eu tynnu i roi rhyddid i natur ac i feithrin y teimlad o wylltineb.
Nid yw cynefinoedd wedi’u rhannu’n adrannau, er mwyn caniatáu iddynt esblygu a rhyngweithio’n naturiol. Mae’r cydadwaith deinamig hwn o gynefinoedd yn creu amrywiaeth ar draws y dirwedd a thrwy amser, ac mae’n allweddol i’r teimlad o wylltineb a phresenoldeb bywyd gwyllt toreithiog.
Niferoedd llysysyddion i’w rheoli dros y tymor hir, er mwyn caniatáu i orchudd coed gynyddu ar draws y safle.
Yr adfer mewn ffigurau . . .