GWIRFODDOLI

Dwi bob amser yn mwynhau dod i Fwlch Corog i wirfoddoli. Gall y gwaith fod yn anodd ar brydiau, ond r’ych chi’n teimlo bod yr amser yn cael ei dreulio’n dda. Ac mae’n ffordd dda o helpu bywyd gwyllt i ffynnu hefyd.

Diolch am ddangos diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i lwyddiant y prosiect, ac rydym yn cynnig ystod eang o brofiadau gwirfoddoli diddorol. Y brif ffordd o ymuno gyda ni yw trwy helpu gyda thasgau ymarferol ar ein safle ym Mwlch Corog – rydym yn cynnal un diwrnod gwaith pob mis, fel arfer ar Sadwrn olaf y mis. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag agweddau eraill o’n gwaith, yna cysylltwch gyda ni er mwyn trafod posibilidau.

Er mwyn derbyn y wybodaeth diweddaraf, gofynnwch i gael bod ar ein rhestr cyswllt. 

Dyddiadau diwrnodau gwaith 2023:

Yn ystod 2023, cefnogir ein rhaglen plannu coed gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel rhan o Brosiect Adfer Naturiol Dalgylch Dyfi a ariennir gan gynllun ENRaW Llywodraeth Cymru.

28ain Ionawr – plannu coed ar y rhostir gan ddefnyddio gardiau ‘cactws’ i amddiffyn y glasbrennau
18fed Chwefror – plannu coed ar y rhostir gan ddefnyddio gardiau ‘cactws’ i amddiffyn y glasbrennau
25ain Mawrth – plannu coed ar y rhostir gan ddefnyddio gardiau ‘cactws’ i amddiffyn y glasbrennau + tynnu rhisgl o bolion llarwydd sydd i’w defnyddio mewn strwythur syml
*NEWID DYDDIAD* 22ain Ebrill – defnyddio polion llarwydd i greu strwythur syml, cynnal a chadw cyffredinol ar y safle
20fed Mai – tynnu brwyn o byllau er mwyn annog cytrefu mwsogl migwyn + arolwg bioamrywiaeth
24ain Mehefin – difa rhedyn
29ain Gorffennaf –
19eg Awst – 
30ain Medi – 
28ain Hydref – 
25ain Tachwedd – 

Cyfarwyddiadau: 10.00 y.b. Cwrdd yn y gilfan (mynedfa Y Plas) wrth ymyl y gylchfan ar gyrion Machynlleth (A487 wrth deithio i’r de.).  Neu dyma sut i’n ffeindio ni.

Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau ar gyfer tir gwlyb.

Cofiwch fwyd a diod yn ôl eich angen.

4.00y.p. – gorffen.