
Rydym wedi cael ein dewis unwaith eto eleni i gymryd rhan yn y Big Give Green Match Fund, sy’n newyddion gwych. Bydd pob punt sy’n cael ei rhoi i’n hymgyrch nes i ni gyrraedd ein targed yn cael ei dyblu gan Big Give, ac felly yn werth dwywaith cymaint ag arfer! Mae’r ymgyrch yn rhedeg o heddiw tan ddydd Mawrth y 29ain o Ebrill, felly mae gennym wythnos i godi cymaint o arian ag y gallwn.
Mae cyllid i elusennau yn mynd yn fwy anodd i’w sicrhau, felly mae cyfle fel hwn yn hynod werthfawr i ni. Bydd yr arian a godir drwy’r ymgyrch hon yn cyfrannu at ein dau nod craidd – adfer y cynefinoedd ar ein safle, a helpu pobl i gysylltu â byd natur. Edrychwch ar ein tudalen ymgyrch i weld sut y gall hyd yn oed symiau bach o arian wneud gwahaniaeth, ac os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu, yna gwnewch hynny – ni fydd eich rhodd byth yn gwneud mwy o wahaniaeth nag yr wythnos hon.
Rydym yn deall na fydd pawb mewn sefyllfa i gyfrannu fel hyn ond mae’n dal yn bosibl ein helpu yn yr ymgyrch hon drwy drosglwyddo’r neges hon i ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Bydd yna hefyd ddigonedd o bostiadau cyfryngau cymdeithasol y gallech chi eu rhannu yn ystod yr wythnos!