

Diwrnod Agored 2026
Rydym yn cynnal ein diwrnod agored blynyddol ym Mwlch Corog ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin. Bydd yna lawer i’w weld a’i wneud, i oedolion ac i blant, a pherfformiadau gan Cynefin a Milly Jackdaw.
Adfer cynefinoedd a rhywogaethau; cysylltu pobl gyda natur
Elusen Gymreig yw Coetir Anian, gyda’r nodau o adfer cynefinoedd a rhywogaethau, a chysylltu pobl â natur a mannau gwyllt. Rydym yn gofalu am safle 150 hectar o’r enw Bwlch Corog, wedi ei leoli yn ucheldiroedd Canolbarth Cymru ger yr Afon Dyfi a’r môr, a dyma lle mae ffocws ein gwaith.
Mae mawndir diffaith yn cael ei adfer i orgors a rhostir yr ucheldir. Mae gorchudd coed yn cynyddu i ail-greu ehangder mawr o goedwig frodorol a ffridd. Mae anifeiliaid gwyllt fel belaod y coed a llygod y dŵr yn dychwelyd a gallai fod cyfleoedd yn y dyfodol i ailgyflwyno rhau rhywogaethau cynhenid eraill yn y dyfodol.
Mae’r prosiect yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac yn cynnal gwersylloedd ieuenctid ar gyfer pobl ifanc bregus a difreintiedig. Ynghyd â’n diwrnodau gwirfoddoli, cychwynnodd rhaglenni ar gyfer oedolion a phobl ifanc o ystod amrywiol o gefndiroedd yn ystod haf 2021. Fel adnodd cymunedol, mae’r safle ar gael am ddim i fwynhau pleserau syml fel cerdded a gwersylla, gan gadw at yr egwyddor o adael dim ôl .
Archwiliwch yr adrannau isod, neu wyliwch ein ffilm i ddysgu mwy.



