ARTS DROP NATUR

Mae’r bagiau wedi bod yn llwyddiannus iawn ac yn belydren o oleuni ym mywydau’r plant yn ystod y dyddiau tywyll, hydrefol hyn. Maent wedi bod yn adnodd hyfryd i’n teuluoedd.

Cydlynydd Cefnogaeth i Deuluoedd, Y Drenewydd

Prosiect unigryw oedd Arts Drop Natur, wedi’i gynllunio i gefnogi lles plant bregus a difreintiedig a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod clo a thrwy gydol y pandemig trwy ddarparu pecynnau cysylltiad natur creadigol a gweithgareddau lles i’w cartrefi. Rheolwyd Arts Drop Natur gan Goetir Anian gyda chefnogaeth gan ‘Arts Drop,’ sefydliad celfyddydau a greuwyd gan ymgynghorydd iechyd meddwl a’r celfyddydau. Ariannwyd prosiect  Arts Drop Natur yn hael iawn gan Sefydliad Moondance a Chronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru ac fe’i weinyddwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Rydym yn hynod falch bod Cyngor Calderdale wedi penderfynu defnyddio cyllid y llywodraeth ar gyfer plant bregus a difreintiedig yn ystod gwyliau ysgol y Pasg i fynd â Arts Drop Natur i 5,300 o blant. Mae hwn yn fersiwn lai o’r prosiect gwreiddiol, gyda 10 cerdyn post gweithgaredd yn hytrach na’r 20 gwreiddiol. Fodd bynnag, roeddynt yn defnyddio’r fformat gwreiddiol, gan gynnwys y bagiau, ein cardiau post a digon o ddeunyddiau celf.

Dyluniwyd y pecynnau yn benodol ar gyfer plant y nodwyd eu bod gartref, mewn perygl a chyda mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd. O ddydd Mawrth 10fed o Dachwedd 2020, dosbarthodd gweithwyr allweddol ac athrawon becynnau gweithgaredd natur greadigol arbenigol i 600 o blant a phobl ifanc a nodwyd fel y rhai mwyaf bregus yn ‘nalgylch’ Coetir Anian – ardaloedd Gogledd Ceredigion, Powys (Machynlleth, Llanidloes a’r Drenewydd ) a Meirionnydd.
Roedd y pecynnau’n cynnwys ‘bag tote’ o ddeunyddiau celf o ansawdd uchel (gweler y lluniau isod) ac 20 cerdyn post o weithgareddau creadigol sy’n briodol i’w hoedran. Datblygwyd a dosbarthwyd tri phecyn gwahanol ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws ystod oedran eang:
80 pecyn ar gyfer plant blynyddoedd cynnar – hyd at 5 oed
370 pecyn ar gyfer plant rhwng 6 ac 11 oed
150 pecyn ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed

Bag Blynyddoedd Cynnar

Bag Oedran Ysgol Gynradd

Bag Oedran Ysgol Uwchradd

Doedd gen i ddim syniad y byddai’r bagiau’n cynnwys cymaint o adnoddau. Roeddwn i wedi bod yn disgwyl rhywbeth ar raddfa llawer llai crand. Roedd maint y bagiau a’r ansawdd yn anhygoel!

Athrawes Ysgol Gynradd, Llanidloes

Roedd y rhieni wrth eu boddau â’r bagiau oherwydd bod popeth wedi’i ddarparu, nid oedd angen iddynt fynd i’r siopau i brynu unrhyw beth. Gallai eu plant wneud yr holl weithgareddau ar unwaith.

Athrawes Ysgol Gynradd, Y Drenewydd

Cydlynydd Cefnogaeth i Deuluoedd, Y Drenewydd yn derbyn eu bagiau

Mae faint sydd yn y bagiau yn fy syfrdanu … Mae ansawdd y cardiau gweithgaredd a’r deunyddiau yn uchel iawn …… Hefyd, fel ysgol, rydyn ni bob amser wedi rhoi’r pwyslais ar fod yn yr awyr agored ym myd natur yn hytrach na bod tu fewn ar sgriniau. Felly, mae ongl natur y gweithgareddau hyn yn syniad gwych.

Athrawes Ysgol Gynradd, Y Drenewydd

Cafodd y pecynnau dderbyniad cadarnhaol ym mhob man. Gwnaeth ein partneriaid i gyd sylwadau ar ansawdd ac amrywiaeth y gweithgareddau a’r deunyddiau a ddarperwyd, gan nodi eu gwerthfawrogiad o ffocws ar lesiant trwy gysylltiad natur.

Defnyddiodd Ceredigion TAF y pecynnau yn greadigol iawn. Ar gyfer rhai yn eu harddegau, sefydlwyd grŵp rhithwir ar y cyd gan TAF Ceredigion, Tîm Ieuenctid Cyngor Ceredigion a Choetir Anian. Unwaith yr wythnos am 6 wythnos cwrddodd grŵp ar-lein i wneud un o’r gweithgareddau o’r pecyn gyda’i gilydd, gyda gweithgaredd arall yn cael ei osod i’r bobl ifanc ei wneud ar eu pennau eu hunain (neu gyda’u teuluoedd) yn yr awyr agored yn ystod yr wythnos. Ar gyfer eu plant cyn-ysgol, dosbarthodd TAF Ceredigion pecynnau Arts Drop Natur ynghyd â thalebau i brynu esgidiau glaw a chotiau i deuluoedd oedd yn wynebu caledi. Yn ogystal, dechreuodd TAF hwyluso grŵp rhithwir ar gyfer y teuluoedd hyn. Y prif nod oedd annog rhieni i fynd â’u plant allan i roi cynnig ar weithgareddau Arts Drop Natur, trwy ddefnyddio’r adnoddau yn y pecynnau ac ategwyd atynt gyda llyfrau stori.

Bu’n werthfawr gweld sut gwnaeth gwahanol asiantaethau ymgysylltu â Arts Drop Natur ac ymateb iddo. Mae Coetir Anian wedi mwynhau adeiladu partneriaethau newydd gyda’r asiantaethau a’r ysgolion hyn, gyda’r nod o weithio gyda phlant a theuluoedd mwy bregus a difreintiedig yn y dyfodol. Uwchlwythwyd y cardiau gweithgaredd natur i gyd i wefan Arts Drop. Cafodd pob ysgol yng Ngheredigion, ynghyd ag ysgolion ym Mhowys a Meirionnydd ac asiantaethau eraill sy’n cefnogi plant bregus a difreintiedig a’u teuluoedd, y ddolen i’r wefan er mwyn i athrawon a gweithwyr allweddol gyrchu a defnyddio’r gweithgareddau gyda’u holl ddisgyblion ar dir eu hysgol. Wrth i’r adferiad o’r pandemig barhau, ac wrth i adroddiadau ddangos bod iechyd meddwl yn dirywio, mae llesiant yn bwysicach fyth i’n holl blant a phobl ifanc ledled Cymru. Gobeithio y bydd Arts Drop Natur yn helpu rhai o’r plant hyn nawr ac yn y dyfodol.

Mae hi mor braf cael rhywbeth nad yw ar y sgrin. Mae’r plant wedi bod yn treulio mwy o amser ar sgriniau yn ystod ac ar ôl y cyfnod clo ac mae lefelau eu pryder wedi codi o ganlyniad. Mae plant yn teimlo’n ynysig ac nid ydyn nhw’n gwybod sut i fynegi hyn. Diolch yn fawr iawn. Mae’r cynnydd mewn atgyfeiriadau ers i Covid-19 ddechrau wedi ein llorio. Bydd hyn o gymorth mawr.

Gwasanaethau Cymdeithasol, Ceredigion