Mae’r cyffro’n parhau yn Nghoetir Anian!

Ar ôl apwyntio dau aelod newydd o staff yn yr hydref, rydym bellach yn recriwtio ar gyfer trydydd aelod newydd i ymuno â’n tîm. Bydd rôl newydd Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau yn gweithio ochr yn ochr â’n cyfarwyddwr prosiect, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli’r safle ym Mwlch Corog, monitro cynefinoedd a bywyd gwyllt, rhedeg diwrnodau gwaith gwirfoddolwyr, ac ymchwilio i ddichonoldeb adfer rhywogaethau. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â sgiliau rhagorol wrth weithio gyda phobl, profiad o reoli tir ar gyfer bywyd gwyllt a monitro ecolegol, ac wrth gwrs, mae angerdd dros fywyd gwyllt ac adfer natur yn hanfodol. Os mai chi yw hwn, cewch ragor o wybodaeth am y rôl yma: https://www.environmentjob.co.uk/jobs/94090-habitats-and-species-manager 

Mae’r rôl newydd hon yn bosibl oherwydd ein llwyddiant diweddar i sicrhau nifer o grantiau sylweddol, yn enwedig gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur ar gyfer ein prosiect newydd ‘Cysylltiadau Natur yn nalgylchoedd Melindwr, Llyfnant, ac Einion’ a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2023. Rydym yn hynod falch ein bod wedi derbyn £250,000 dros 2 flynedd, gyda’r nodau o:

1. Parhau i adfer cynefinoedd ym Mwlch Corog, safle allweddol ar gyfer cysylltedd cynefinoedd rhwng nifer o ardaloedd gwarchodedig. Bydd adfer mawndir a rhostir yn creu cysylltedd cynefin rhwng SoDdGA ar y naill safle neu’r llall ym Mhen Craigiau’r Llan a Phencarreg Gopa a bydd mwy o orchudd coed yn cysylltu cynefinoedd coetir gwerthfawr mewn SoDdGA yng Nghwm Llyfnant a Chwm Einion.

2. Parhau a datblygu ymhellach ein rhaglen gymunedol ac addysg, gan gynnwys nifer ehangach o bobl leol a phobl ifanc mewn gweithgareddau cyswllt natur a gwirfoddoli.

3. Meithrin partneriaethau gyda thirfeddianwyr cyfagos sydd â diddordeb mewn cydweithio er budd cysylltedd cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth ar raddfa tirwedd.

Bydd y cyfle cyffrous hwn yn ein galluogi i barhau â’n gwaith adfer cynefinoedd pwysig ym Mwlch Corog, gan gynnwys adfer mawndir a chynyddu gorchudd coed. Yn ogystal, byddwn yn gallu ymestyn ein rhaglenni pobl ffyniannus – gan weithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid i gynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cyswllt natur a datblygu ein cyfleoedd gwirfoddoli. Nod elfen olaf y prosiect hwn yw adeiladu partneriaethau newydd gydag eraill yn yr ardal sydd â diddordeb mewn cydweithio er budd byd natur.
Rydym yn edrych ymlaen at rai blynyddoedd prysur o’n blaenau ac yn gobeithio y byddwch yn mwynhau dilyn ein taith a hyd yn oed ymuno â ni ar gyfer rhai o’n gweithgareddau.

Darganfod rhyfeddodau’r byd naturiol