Pwy ydym ni?

Mae Coetir Anian yn cynnwys y llu o bobl sy’n cyfrannu at ein hamcanion drwy wneud gwaith ar y safle neu gyfrannu arian. Elusen yw Coetir Anian, sy’n cael ei rhedeg gan dîm bychan o staff a’i lliwio gan fwrdd o ymddiriedowlyr.

Menter cymunedol leol ydyw yn y lle cyntaf, er gwaethaf ei harwyddocâd cenedlaethol a’i diddordeb rhyngwladol.

Noddwyr

Jane Davidson

Jane Davidson yw awdur #futuregen: Lessons from a Small Country, sy’n cyflwyno’r rhesymau pam mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol. Cyhoeddir #futuregen gan Chelsea Green. Hi yw Cadeirydd Ymchwiliad Cymru i’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad a Dirprwy Is-Ganghellor Emeritws ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant

Rhwng 2000 a 2011, roedd Jane yn Weinidog Addysg, yna’n Weinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd I Lywodraeth Cymru, lle cynigiodd gyfraith i wneud amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn egwyddor drefniadol ganolog i’r llywodraeth; daeth Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gyfraith yn 2015. Cyflwynodd y tâl bagiau plastig cyntaf yn y DU, ac aeth ei rheoliadau ailgylchu â Chymru i’r trydydd gorau yn y byd. Creodd Gomisiwn Newid Hinsawdd i Gymru, swydd Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Datblygiadau One Planet a Llwybr Arfordir Cymru. Mewn Addysg, treialodd newidiadau mawr i’r cwricwlwm; y Cyfnod Sylfaen ar gyfer y blynyddoedd cynnar, Bagloriaeth Cymru ac addysg integredig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang i Gwricwlwm Cymru.

Mae Jane yn noddwr i Goetir Anian, y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM) ac Offer ar gyfer Hunanddibyniaeth Cymru (TFSR Cymru). Mae ganddi gymrodoriaethau anrhydeddus o IEMA (Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol), WWF, CIWM (Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff), CIWEM (Sefydliad Siartredig Rheolaeth Dŵr ac Amgylcheddol) a doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Morgannwg. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau arbenigol rhyngwladol. Mae hi’n Gymrawd RSA ac ers 2017 a bu’n gyfadran wadd yn y rhaglen Addysg Weithredol ar gyfer Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd T. H. Chan, Prifysgol Harvard.

Mae hi’n byw ar dyddyn yng ngorllewin Cymru lle mae’n anelu at fyw’n ysgafn ar y tir.

 

Sue Jones-Davies
Sue Jones-Davies

Mae Sue Jones-Davies yn Gynghorydd Tref yn Aberystwyth ar ran Plaid Cymru. Hi oedd Maeres y dref yn 2009. Cafodd ei magu yn sir Benfro yng nghysgod y Preselau. Mae’n cario’r cariad yna at y gwylltni a’r rhyddid a theimlasai yno, gyda hi hyd heddiw.

Mae’n aelod-sylfaenydd o GAG (Grŵp Aberystwyth Gwyrddach); sef grŵp a ffurfiwyd er mwyn amddiffyn y coed o fewn Aberystwyth, trwy blannu coed o fewn tir ysgolion a’u hybu ar ddatblygiadau adeiladu newydd. Bu GAG yn weithgar iawn wrth hybu a chefnogi’r cynllun i blannu coed ar y ffordd i fewn i Aberystwyth, gan sicrhau grant tair blynedd gan Lywodraeth Cymru.

Cred Sue fod y galw i hybu a chynnal cefn gwlad mor bwysig ac angenrheidiol ag erioed. Mae’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect gweledigaethol hwn i adfer cynefinoedd ac ymgysylltu pobl â byd natur yn y rhan brydferth hon o Gymru.

Ymddiriedolwyr

Joe Hope

Cadeirydd

Ffermwr a chadwraethwr yw Joe. Mae e dal yn weddol newydd i ffermio gan mai cefndir proffesiynol mewn ecoleg sydd ganddo – yn benodol mewn dynameg coetiroedd, adfer cynefinoedd a chenneg. Bellach, mae Joe yn mwynhau brwdfrydedd rheini sydd wedi gweld y goleuni, trwy ailddarganfod diddordeb plentyndod a’i gyfuno ag angerdd newydd dros archwilio sut y gall amaethyddiaeth adfywiol gydblethu â chadwraeth bioamrywiaethol. Mae ganddo MSc o Fangor mewn Rheoli Adnoddau Gwledig a PhD o Stirling mewn Dynameg Tirwedd Coedwigoedd. Ymgymrodd â gwaith maes helaeth yng Ngwarchodfa Coedwig Celyddon Glen Affric yn ucheldiroedd yr Alban – prosiect blaenllaw ar gyfer adfer cynefinoedd ar raddfa eang.

Mae Joe yn byw ar Fferm Cefn Coch, ar drothwy safle Coetir Anian ym Mwlch Corog. Mae’n dod ag arbenigedd mewn ecoleg yr ucheldiroedd, profiad mewn rheoli tir a chyd-destun lleol (iawn!) i’r prosiect. Mae e hefyd yn borwr i ni, ei wartheg Gwynion Cymreig, Ucheldir a Dexter yn ein helpu i reoli’r safle.

Mathew Mitchell

Trysorydd

Mae Mat yn Syrfëwr Siartredig sy’n ymdrin â thir ac adeiladau o fewn y sector gyhoeddus ac i gwmniau. Defnyddiodd y doniau hyn i sicrhau pryniant tir cyntaf yr elusen.

Gan ei fod o gefndir amaethyddol mae Mat yn awyddus iawn i weld sut y gall ffermio traddodiadol a defnydd tir amgen weithio ochr yn ochr â’i gilydd i wella cefn gwlad ar gyfer bywyd gwyllt a chynyddu mynediad iddo.

Milly Jackdaw

Mae Milly yn storiwraig a’n addysgwraig sy’n arbenigo mewn hyrwyddo gwerthfawrogiad o fyd natur trwy berfformiad, storiau a gweithdai. Mae ganddi gariad dwfn at natur ac anifeiliaid a chred ym mhwysigrwydd cysylltiad rhwng pobl a natur. Mae hi wedi gweithio mewn ysgolion ac mewn sawl man awyr-agored er mwyn ymrwymo plant gyda byd natur drwy berfformiad a thrwy profiad uniongyrchol, ac mae’n ymroddedig i alluogi mwy o gyfleuon i bobl i gael mynediad i fyd natur.

Mae hi’n arbennig o frwd dros greu cyfleuon i’r rheiny sy’n debygol o gwrdd â rhwystrau tra’n ceisio cysylltu â byd natur ac a fyddai hefyd yn elwa fwyaf o’r cysylltiad hynny. Ar hyn o bryd, mae’n astudio ecoleg maes ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n Aelod Cyswllt o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Jon Walker

Mae Jon yn arbenigwr ar gynefinoedd mawndir ac adfer gorgorsydd ac mae’n gweithio fel ymchwilydd yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n byw yn lleol gyda’i deulu ifanc ac yn berchen ar dyddyn y mae’n gobeithio y bydd yn gartref i ferlod y Carneddau yn y dyfodol agos.

Simon Ayres

Coedwigwr proffesiynol yw Simon, sy’n arbenigo mewn creu ardaloedd o goetir newydd a rheoli coetiroedd brodorol, gan gynnwys adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol. Mae e wedi cefnogi adfer ardaloedd mawr o goetir brodorol ym Mhrydain ers dros 30 mlynedd, ac wedi ymwneud â hyrwyddo mwy o wylltineb yn y dirwedd ers bron i 20 mlynedd. Yn un o sylfaenwyr Coetir Anian, mae Simon yn parhau i ymwneud yn agos â datblygiad y prosiect ers ei sefydlu. Fe’i ysbrydolwyd i chwarae ei ran wrth atgyweirio’r difrod i’r byd naturiol, trwy adfer cynefinoedd a gwneud lle i fywyd gwyllt.

Ymhlith ei ddiddordebau mae ‘bushcraft’ ac archwilio ardaloedd gwyllt ar droed ac mewn chanŵ.

Staff

Katy Harris

Cyfarwyddwr

Mae Katy wedi gweithio i elusennau amgylcheddol yng Nghymru ers 2004, gan gynnwys rolau yng Nghoed Lleol – Cymdeithas Coedwigoedd Bychain, y Ganolfan Dechnoleg Amgen, ac yn fwyaf diweddar RSPB Cymru. Mae gan Katy gyfoeth o brofiad mewn datblygu a rheoli prosiectau yn ogystal â chodi arian. Bu’n gweithio ar gadwraeth coedwigoedd boreal hen-dwf yn Rwsia a Sgandinafia, gan gefnogi grwpiau bach i feithrin gallu, ymgysylltu cymunedol a pholisi, a rhwydweithio. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn cadwraeth natur, adfer cynefinoedd, galluogi cymdeithas i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac mewn cysylltu pobl a chymunedau â natur. Mae Katy wedi byw yn Aberystwyth ers bron i 20 mlynedd ac yn ei hamser rhydd mae’n mwynhau archwilio mannau gwyllt yng Nghymru a thu hwnt, fel arfer gyda’i gŵr a’i theulu ifanc. Mae hi hefyd yn mwynhau tyfu llysiau ar ei rhandir. Yn ogystal â 3 o blant, mae ganddi ddwy gath a phedair iâr bantam. Mae ganddi gymwysterau mewn Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd, Rheolaeth ac Ieithoedd Modern. Mae hi’n rhugl yn Rwsieg ac Almaeneg ac yn dysgu Cymraeg.

Leah Findlay

Rheolwr Codi Arian

Mae gan Leah PhD mewn gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt o Brifysgol Durham. Cyn hyn bu’n gweithio gyda chymunedau ffermio yn Ne Affrica, lle canolbwyntiodd ar liniaru tensiynau rhwng cymunedau a bywyd gwyllt, gyda phwyslais ar gydfodolaeth gynaliadwy. Yn y gorffennol, mae hi hefyd wedi gweithio fel codwr arian i Ymddiriedolaeth Natur Surrey, yn ogystal â chwarae rôl mewn ariannu ei gwaith blaenorol. Mae ganddi gymwysterau mewn Cadwraeth a Bioamrywiaeth, Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Rheolaeth Codi Arian. Wedi’i gyrru gan angerdd dros gadwraeth, mae Leah wedi ymrwymo i feithrin cytgord rhwng bodau dynol a’r byd naturiol. Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau treulio amser ar y traeth gyda’i chŵn.

Clarissa Richards

Rheolwr Addysg a Chymuned

Mae Clarissa yn byw ar dyddyn ger Tregaron. Gyda’i theulu mae hi wedi mwynhau annog bywyd newydd i’r tir trwy blannu coed, adfer gwrychoedd, rheoli’r dolydd blodau gwyllt a chreu pyllau ac ardaloedd gwlyb. Maent wedi cael eu gwobrwyo gyda llawer o blanhigion ac anifeiliaid newydd yn gwneud eu cartrefi ar y tir, yn fwyaf diweddar mwydod tywynnu! Bu’n dysgu mewn ysgol leol am 13 mlynedd, ar ei hapusaf tu allan gyda’r disgyblion, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau natur.

Rachael Davey

Swyddog Cyllid a Gweinyddu

Am y rhan fwyaf o’i gyrfa bu Rachael yn gweithio fel athrawes a rheolwr addysg yn Iwerddon, Japan, India, Bhwtan a Chymru. Wedi cael ei denu at gadwraeth erioed, gwnaeth newid llwyr yn 2023, gan wirfoddoli gyda thîm wardeniaid Nature Scot ar Ynys May ar gyfer tymor bridio adar y môr, ac yna blwyddyn gyda thîm wardeiniaid yr RSPB yn Leighton Moss. Cadarnhaodd hyn mai’r sector cadwraeth oedd lle’r oedd hi eisiau gweithio, a gan ddychwelyd i Gymru ym mis Tachwedd 2024, ymunodd â thîm Coetir Anian. Yn ogystal â gweithio yn y swyddfa, mae Rachael yn mwynhau mynd allan ar y safle pan bydd cyfle. Yn ei hamser rhydd, mae hi wrth ei bodd yn archwilio mannau gwyllt a dysgu am y bywyd sydd ynddynt, yn ogystal â nofio, ysgrifennu, rhwyfo cwch pedair llaw gyda’i chlwb rhwyfo lleol, gwneud cerameg, a thyfu pethau.

Cian Llywelyn

Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu Treftadaeth

Magwyd Cian yn Nhal-y-bont, pentref rhyw chwe milltir i’r de-orllewin o Fwlch Corog. Wedi elwa o fagwraeth ddwyieithog, aeth ymlaen i astudio tair iaith arall ym mhrifysgol Bangor, a threuliodd amser yn byw ac yn astudio yn Ffrainc, Sbaen a’r Eidal fel rhan o’i radd. Mae hanes gwaith Cian yn amrywiol iawn – mae e wedi bod yn bostmon, barmon, barista, gyrrwr tacsi a rheolwr lleoliad, ynghyd â gwaith llawrydd mewn digwyddiadau a gwyliau ac fel tasgmon a garddwr. Bu hefyd yn gweithio ar ffermydd defaid, cig eidion a llaeth yn lleol ac yn Chile, a gwirfoddolodd ar brosiectau cadwraeth amrywiol yng Nghymru a lleoliadau hirdymor gyda Gwasanaeth Coedwigaeth Gwlad yr Iâ, gan ennill digon o brofiad i gael ei swydd gyntaf ym maes cadwraeth yn 2022. Ers hynny, mae wedi bod ar daith i fyny’r afon yn nalgylch yr Afon Dyfi, yn gyntaf yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas, yna Canolfan Natur Dyfi / Prosiect Gweilch Dyfi, ac yn awr Bwlch Corog. Yn ei amser hamdden, mae’n dal i wirfoddoli i ehangu ei brofiad o’r sector, ac wrth ei fodd yn beicio, rhedeg, adeiladu pethau a thrwsio pethau.

Cyweithredwyr

Neil Groves

Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau

Ymunodd Neil â Coetir Anian ar secondiad o warchodfa natur RSPB Ynys-hir yn 2023, lle bu’n gweithio am 13 mlynedd, yn rheoli coetiroedd, corsydd cyforgors a ffridd i rai o rywogaethau mwyaf eiconig Dyffryn Dyfi. Yn anffodus i ni, daeth ei secondiad i ben ddechrau 2025, a dychwelodd yn ôl i lawr y dyffryn i Ynys-hir. Yn ffodus i ni, fodd bynnag, mae Neil wedi cytuno’n garedig i barhau ar sail rhan-amser, llawrydd pan fydd amser yn caniatáu. Mae ei gefndir mewn rheoli tir ymarferol, monitro ecolegol a gweithio gyda gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae’n byw’n lleol gyda’i deulu ac yn mwynhau chwarae pêl-droed, rhedeg, darllen a gwyddbwyll.

Jane Robertson

Hwylysydd Grwpiau Llawrydd

Mae Jane wedi bod yn cynnal gwersylloedd i bobl ifanc ac oedolion ers 15 mlynedd.
Wedi’i gyrru gan gariad at ddeunyddiau naturiol a gwneud pethau o’r dechrau, mae ganddi amrywiaeth eang o wahanol weithgareddau y mae’n eu rhannu gyda’r bobl ifanc yn Mwlch Corog i’w helpu i ymgysylltu â’r byd naturiol a’u creadigrwydd eu hunain.
Mae Jane yn rhedeg tanerdy naturiol bach sy’n gwneud lledr â llaw gan ddefnyddio hen dechnegau (tanerdy Oak and Smoke) ac mae hi hefyd yn tyfu bwyd i’w werthu’n lleol.

Bob gaeaf pan fydd y gwaith awyr agored gyda phobl ifanc yn arafu, mae hi’n plannu miloedd o goed llydanddail i gontractwyr lleol.
Y tu allan ym mhob tywydd mewn mannau anghysbell yw ei ffordd ddewisol o dreulio’r gaeaf.

Mae Jane wedi bod yn gweithio’n llawrydd i Coetir Anian ers 2019 ac mae’r safle ym Mwlch Corog yn un o’i hoff leoedd i fod yn y byd i gyd.

Julian Long

Cyfrifydd Llawrydd

Magwyd Julian yn Dorset ac astudiodd Wyddoniaeth Gyffredinol yn y brifysgol. Hyfforddodd gyda Coopers a gweithiodd am ddeng mlynedd yn y diwydiant offer gwyddonol. Ar wahân i gadw llyfrau, mae Julian yn mwynhau cydbwysedd o arddio, cerdded a gofalu am anifeiliaid anwes. Mae ei gariad at y byd naturiol yn cael ei wella gan ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac ysgrifennu am natur.