AMCANION STRATEGOL A CHYNLLUNIAU

Ein nod yw chwarae’r rhan lawnaf y gallwn yn ystod Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystem 2021-2030 trwy adfer cynefinoedd dros ardal fwy a chynyddu bywyd gwyllt.

Gan gydnabod rôl hanfodol cysylltu pobl â natur wyllt, er budd yr unigolyn a’r blaned, byddwn yn parhau i gyflawni a datblygu ymhellach ein gweithgareddau ysbrydoledig gyda phlant, ieuenctid ac oedolion.

Ein blaenoriaethau ar gyfer 2021-2030:

  • Parhau â’r rhaglen ysgolion cynradd a’r gwersylloedd ieuenctid yng Nghoetir Anian
  • Cychwyn raglenni ar gyfer oedolion yng Nghoetir Anian, gan gynnwys gwersylloedd Byw yn Wyllt a rhaglenni ar gyfer grwpiau penodol, er enghraifft pobl mewn adferiad dibyniaeth, ceiswyr lloches a gofalwyr ifanc
  • Parhau â gweithgareddau i adfer cynefinoedd naturiol yng Nghoetir Anian
  • Cynyddu bywyd gwyllt yng Nghoetir Anian drwy ymchwilio i ddichonoldeb prosiectau ailgyflwyno ar gyfer rhywogaethau fel llygod pengrwn y dŵr, y wiwer goch, bele’r coed a’r grugiar ddu
  • Ymgysylltu â pherchnogion tir cyfagos, gan gynnwys Adnoddau Naturiol Cymru, i gefnogi gwelliannau cynefinoedd, rhywogaethau a mynediad