Pobl
Roeddent . . . wrth eu boddau yn dysgu am yr amgylchedd yr oeddent ynddo ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr amrywiaeth a gwarchod y cynefin naturiol.
Mae cysylltu pobl â bywyd gwyllt a lleoedd gwyllt yn bwysig iawn i ni. Yng Nghoetir Anian rydym yn cynnal rhaglenni ar gyfer ysgolion cynradd lleol ac ysgolion uwchradd. Cynigiwn ystod eang o weithgareddau, o ddysgu am batrymau rhif Fibonacci ym myd natur i gerfio llwyau o amgylch tân gwersyll, ac o gysgu allan o dan y sêr yn yr haf i adnabod coed yn y gaeaf. Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni i oedolion o amrywiaeth o gefndiroedd.
Pan wnaeth pandemig COVID19 hi’n amhosibl inni groesawu ein grwpiau i Fwlch Corog, yn hytrach na gorffwys ar ein rhwyfau, ymunom ni â Arts Drop i greu Arts Drop Natur gan sicrhau ein bod ni’n parhau i gefnogi plant a phobl ifanc yn ein hardal. Darllenwch fwy am Arts Drop Natur.
Faint o bobl sydd wedi elwa o’n prosiectau?
Disgyblion Ysgol Gynradd
Gwersylloedd Ieuenctid
Diwrnodau Natur + Lles
Digwyddiadau Cymunedol
Gwersylloedd Drws Agored
Bagiau Arts Drop Natur
Diogelu
Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn mewn perygl yn ddiogel wrth gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Ein swyddogion diogelu yw:
Katy Harris – katy.harris@coetiranian.org
Clarissa Richards – clarissa.richards@coetiranian.org



