BLOG BWLCH COROG
Dyma’r lle i gael y newyddion diweddaraf o Fwlch Corog.

Canfyddiad!
09.08.23
Tra’n crwydro Bwlch Corog yr wythnos hon, gwelodd ein Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau yr Yfwr Gwlith hardd hwn – er nad yw’n un o’n gwyfynod prinnach, mae’n dda ychwanegu rhywogaeth arall at y rhestr ar gyfer Bwlch Corog! Credir bod y gwyfyn hwn wedi’i enwi oherwydd bod y lindysyn yn yfed diferion o wlith ar goesynnau glaswellt. Maent yn ffafrio lleoedd llaith a chorsiog felly mae ardaloedd ucheldirol ein safle yn gynefin perffaith iddynt.

Neil yn ymuno â'r tîm
28.06.23
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau newydd wedi dechrau yn ei rôl yr wythnos hon. Mae gan Neil gyfoeth o brofiad yn y maes ac mae’n awyddus i ddechrau gweithio ar ein prosiectau cyffrous niferus gan gynnwys adfer mawndiroedd a datblygu partneriaethau tirwedd. Fel y gwelwch o’r llun, mae wedi cael ei fetio gan rai o aelodau pwysicaf y tîm a chredwn eu bod yn cymeradwyo ein cydweithiwr newydd! Croeso, Neil!

Llwyddiant ar y Mawndir
11.07.23
Yr wythnos diwethaf, mentrodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Katy a’r Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau, Neil i ardaloedd pellaf ein ‘cors fawr’ i wneud rhywfaint o waith monitro anffurfiol o’n gwaith adfer mawndiroedd.
Y llynedd, gyda chyllid gan Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, buom yn arbrofi gyda thechnegau ar gyfer lleihau gorchudd Molinia ar ein hardaloedd o fawn dwfn. Yn dilyn ymgynghoriad ag ecolegydd a gyda chymorth contractwr arbenigol, crafwyd gwellt y gweunydd o rai mannau, gan ddefnyddio cyfuchliniau’r tir i greu argaeau bychain cyn plannu plygiau migwyn. Yn natur arbrofi, nid yw pob ardal wedi llwyddo 100% ond ar eu hymweliad diweddaraf, roedd Katie a Neil yn falch o weld llwyddiant mawr yn yr ardaloedd o fawn dyfnaf – mae’r migwyn yn ffynnu a’r ‘pyllau’ bach yn fyw gyda madfallod, llyffantod a gweision y neidr. Byddwn yn parhau gyda’r gwaith eleni, gan addasu ein technegau yn seiliedig ar ddarganfyddiadau’r llynedd.

Dyfodiad newydd arbennig iawn
26.05.23
Yn ystod misoedd yr haf, mae Bwlch Corog yn darparu porfa i rai o wartheg un o’n hymddiriedolwyr, Joe Hope. Eleni, bydd y fuches yn cynnwys llo ychydig yn anarferol gan fod gan ychwanegiad diweddaraf i fferm Joe olwg nodedig iawn! Mewn llên gwerin Celtaidd credir bod anifeiliaid gwyn â chlustiau coch yn dod o’r Arallfyd. Gan ein bod ni’n cysgodi yng nghanol gwlad y Mabinogion, efallai ein bod wedi cael anrheg o Annwn! Felly, os ydych chi’n crwydro Bwlch Corog yn ystod y misoedd nesaf, cofiwch gadw llygad allan am y creadur prin hwn. Gallwch ddarganfod mwy yma.