DIWRNODAU GWYLLT ALLAN

Mae’r dyddiau yma’n wych! Maen nhw’n cael eu harwain gan bobl anhygoel ac rydyn ni’n gwneud pethau anhygoel!

Cyfranogwr, Diwrnodau Gwyllt Allan

Gyda chyllid gan Gyngor Sir Powys, rydym yn gallu darparu ‘diwrnodau gwyllt allan’ cyffrous i blant a phobl ifanc yn ein hardal leol. Mae’r diwrnodau gweithgaredd hyn yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc anghofio eu sgriniau, pwysau ôl-pandemig ac unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw, ac ymuno â ni am ddiwrnod cyfan o fod yn yr awyr agored yn dysgu sgiliau newydd, cysylltu â byd natur, a gwneud ffrindiau newydd.

Roedd e’n gallu gwneud gweithgareddau y mae’n hoffi eu gwneud gyda grŵp cyfeillgar mewn amgylchedd diogel, chwareus. Daeth yn ôl ag atgofion hapus o anturiaethau a mwy o ffitrwydd. Gwerthfawrogodd y cyfeillgarwch newydd a greodd. Roedd wrth ei fodd gyda’r bwyd cartref a baratowyd gan y staff!

Rhiant, Cyfranogwr Diwrnodau Gwyllt Allan

Mae’r gweithgareddau rydym yn eu cynnig yn cynnwys dysgu sgiliau cynnau tân, gwneud basgedi chwilota o risgl helyg a llinyn o ddanadl poethion, gwaith coed gwyrdd, coginio dros dân y gwersyll, cerdded ceunentydd, ffeltio, adeiladu cuddfan a sesiynau gydag artist lleol. Mae digon o amser wedi’i neilltuo bob tro ar gyfer gemau a darganfod annibynnol – dringo coed a sblasio mewn nentydd sydd ar frig y rhestr!

Canlyniad y diwrnodau hyn? Pobl ifanc hapus a diofal yn y foment yn defnyddio eu dychymyg, bod yn greadigol, gwrando, chwerthin, rhannu tasgau, datrys problemau, cymryd risgiau mewn amgylchedd diogel, cael hwyl a meithrin cyfeillgarwch.

 

Rhiant, Cyfranogwr Diwrnodau Gwyllt Allan

Mae hyn wedi bod yn stwff hwyliog iawn, ac mae’n golygu llawer i mi, oherwydd gallaf fod yn rhydd!

Cyfranogwr, Diwrnodau Gwyllt Allan