
Y Frwydr gyda Rhedyn
Problem sy’n cymryd llawer o’n hamser yn yr haf ym Mwlch Corog yw Rhedyn Ungoes (Pteridium aquilinum). Mae’r rhedyn hwn wedi addasu’n hynod o dda i wneud y gorau o’r amodau sy’n bresennol mewn darnau helaeth o ucheldir Cymru, ac mae’n broblem gynyddol i dirfeddianwyr.
Yn hanesyddol, defnyddiwyd Rhedyn Ungoes at lawer o ddibenion. Cyn i rawn gael eu cynhyrchu mewn cymaint o gyfaint, a’u gwellt sgil-gynnyrch mor doreithiog, roedd yn werthfawr fel gwely gaeaf hawdd ei gael i dda byw. Cyn datblygu potasiwm synthetig, fe’i losgwyd i gael potash – pwysig fel maetholyn gwrteithio ac am ei ddefnydd ym mhrosesau gwneud gwydr, sebon a channydd. Defnyddiwyd y rhisomau ar gyfer trin lledr a lliwio gwlân. Defnyddiwyd y ffrondau hefyd weithiau fel gwellt toi, fel tanwydd ar gyfer tanau a ffyrnau, ac fel deunydd pacio ar gyfer cludo nwyddau bregus. Roedd y defnyddiau hyn yn golygu bod llawer iawn o redyn yn cael ei glirio bob blwyddyn – ond anaml iawn y caiff ei gynaeafu bellach. Mae hyn, ynghyd â newid arferion ffermio a gwahardd y chwynladdwr asulam, a ystyrir fel y dull rheoli mwyaf effeithiol, wedi golygu bod Rhedyn Ungoes wedi dod yn broblem fawr i lawer o reolwyr tir. Gan ei fod yn gallu lledaenu’n gyflym a mygu rhywogaethau sy’n cystadlu, mae lledaeniad afreolus yn dod â llawer o broblemau. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiad mewn porthiant addas ar gyfer da byw, gostyngiad mewn bioamrywiaeth wrth i blanhigion eraill gael eu trechu, a chynnydd mewn achosion o glefyd Lyme – a achosir gan drogod a geir mewn dwyseddau uchel mewn ardaloedd o redyn trwchus. Yr hyn sy’n fwyaf perthnasol i ni yng Nghoetir Anian yw cyfradd oroesi wael coed ifanc mewn ardaloedd lle mae’n tyfu’n drwchus.
Nid yw’r rhedyn hynod wydn hwn yn gallu tyfu ar y tir uchel gwlyb iawn, agored ym Mwlch Corog, na dominyddu i lawr yn y goedwig law Geltaidd gysgodol. Ond ar y ffridd rhyngddynt, mae’n tyfu mewn lleiniau mawr, trwchus, ac yn lledaenu’n rhwydd – gan orlethu eginblanhigion trwy eu cysgodi yn ystod y tymor tyfu, a thrwy gwympo yn yr hydref, gan fynd â’r coed ifanc bregus i lawr gydag ef. Dros amser, bydd coed sy’n goroesi’n ddigon hir i ddianc uwchlaw uchder y rhedyn yn dechrau ei gysgodi, gan leihau ei oruchafiaeth a chaniatáu i fflora arall ddod o hyd i le. Bydd rhedyn yn dal i dyfu, ond ar ddwyseddau llawer is, ac mewn gwell cydbwysedd â phlanhigion eraill. Yn wir, mae’n blanhigyn brodorol ac mae’n bwysig i rai rhywogaethau anifeiliaid fel llawer o grŵp y ffritilari o bili-pala, ac mae’n darparu gorchudd hanfodol i rai mamaliaid ac adar sy’n nythu. Ond heb gymorth, ychydig o eginblanhigion sy’n goroesi’n ddigon hir i gyrraedd uwchlaw’r dryswch trwchus o ffondiau i ddarparu rheolaeth naturiol – felly rhaid i ni wneud y rheoli yn y cyfamser.
Mae gwahardd asulam wedi golygu bod yn rhaid i lawer o reolwyr tir ddod o hyd i ffyrdd newydd o reoli rhedyn ar eu tir, ond gan nad ydym erioed wedi defnyddio plaladdwyr ym Mwlch Corog beth bynnag, roeddem eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau. Y cyflymaf o’r rhain yw gyda rholer rhedyn. Mae hwn yn silindr rholio wedi’i dynnu y tu ôl i gwad, tractor, neu geffylau. Rydym ni’n defnyddio’r olaf o’r rheiny – mae Ceffylau Gwaith Carnog, sy’n echdynnu llawer o’r coed a dorrir yn ein planhigfa llarwydd, hefyd yn arbenigo mewn rholio rhedyn. Gall Barbara a’i cheffylau orchuddio llawer o dir mewn diwrnod, a gall rholio ardal am dair blynedd neu fwy yn olynol wanhau twf rhedyn yn sylweddol ac arafu neu atal lledaeniad pellach.
O ystyried natur yr ardaloedd lle mae rhedyn trwchus yn broblem ym Mwlch Corog, nid yw rholio yn bosibl ym mhobman – er enghraifft ar dir serth neu mewn ardaloedd â dwysedd uchel o goed ifanc yr ydym am eu cadw. Mae dulliau sy’n arafach ond y gellir eu defnyddio yn yr ardaloedd hyn yn cynnwys pladurio, defnyddio slaeswyr neu grymanau, a strimio. Mae gan bob un o’r rhain ei le, ond rydym wedi canfod bod grwpiau sy’n gweithio gyda’i gilydd gan ddefnyddio dulliau â llaw yn fwy effeithlon nag un person â strimiw. Dyna pam mae’r rhan fwyaf o’n diwrnodau gwirfoddol yn ystod misoedd yr haf, pan fydd y rhedyn yn tyfu, yn cynnwys rheoli rhedyn. Er y gall torri rhedyn trwchus am oriau lawer ymddangos fel tasg ddi-ddiolch, mae llawer ohonom yn cael y gwaith yn foddhaol iawn – ac mae edrych yn ôl ar ddiwedd sesiwn i weld yr holl goed ifanc wedi’u rhyddhau o’r rhedyn anhreiddiadwy yn arbennig o foddhaol. Wedi dweud hynny, mae gwybod y bydd y coed wedi tyfu’n ddigon tal mewn dwy neu dair blynedd fel y gallwn roi’r gorau i’w wneud yn yr ardal honno hyd yn oed yn fwy boddhaol.

Rhedyn mewn cydbwysedd
Er i lawer iawn o redyn yn cael ei gynaeafu’n hanesyddol, y ffactor rheoli mwyaf o bell ffordd oedd presenoldeb gwartheg. Yn hanesyddol, roedd gwartheg yn cael eu ffermio’n llawer mwy helaeth yn ucheldir Prydain nag heddiw, ac roedd eu sathru’n achosi effaith wanhau gyson ar redyn – gan dorri a chleisio’r coesynnau a thorri’r rhisomau. Rydym yn ceisio ail-greu hyn ym Mwlch Corog, trwy gael y gwartheg i dreulio amser ar y ffridd bob hydref – rhwng treulio’r haf ar yr ucheldir yn bwyta’r Glaswellt y Gweunydd (Molinia caerulea) sy’n dominyddu yno, a mynd i lawr i dir is am y gaeaf. Rhaid rheoli hyn yn ofalus, oherwydd os bydd y gwartheg yn dechrau rhedeg allan o borthiant addas, gallant ddechrau bwyta’r rhedyn ei hunan – sy’n wenwynig iddynt. Os yw’r ddaear yn wlyb iawn, gall symudiadau trwm y gwartheg sarnu’r ddaear – gan dorri trwy’r wyneb a datgelu’r pridd, gan achosi erydiad pridd. Ac, fel y digwyddodd eleni, yn ystod blwyddyn mes pan fydd niferoedd anarferol o fawr o fes ar y ddaear, ynghyd â haf sych iawn yn arwain at dwf glaswellt gwael, gall gwartheg gael eu temtio i fwyta’r mes gwenwynig, gan achosi iddynt fynd yn sâl – neu’n waeth. Felly, er bod gwartheg yn arf defnyddiol i frwydro yn erbyn y lledaeniad, maent yn arf y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio’n gynnil.
Nid yw’r frwydr yn erbyn rhedyn yn un a fydd yn dod i ben yn gyflym i ni. Wrth i fwy o goed dyfu’n ddigon tal i daflu cysgod mewn rhai rhannau o’r safle, byddwn yn gallu camu’n ôl a gadael i natur ddilyn ei chwrs. Mae awgrym y bydd effeithiau newid hinsawdd – yn enwedig gaeafau cynhesach – yn ei gwneud hi’n bosibl i redyn ledaenu i ardaloedd nad oeddent yn addas o’r blaen, ac efallai y bydd yn rhaid i ni ehangu maes y gad yn unol â hynny. Ond am y tro, rydym yn hyderus, drwy barhau i ddefnyddio cymysgedd o ddulliau a helpu ein coed ifanc i gyrraedd aeddfedrwydd, y byddwn yn gweld llwyddiant yn y pendraw. Yn y cyfamser, byddwn yn cadw llygad ar ddulliau eraill sy’n cael eu defnyddio mewn mannau eraill, fel defnyddio moch, rholeri hunanyredig a reolir o bell, a thripodau rhedyn, gyda meddwl agored am eu defnyddioldeb posibl ym Mwlch Corog.