CYNEFINOEDD
Amrywia cynefinoedd Bwlch Corog o goetir yng ngheunant yr afon a’r llethrau isaf i rostir yr ucheldir a gorgors ar y tir uwch. Yn y gorffennol roedd gorchudd coed ar yr ardal gyfan. Cliriwyd y coed gan fodau dynol i greu’r rhostir a’r corsydd rydyn ni’n eu cysylltu â’r ucheldiroedd. Ond mae hyd yn oed y cynefinoedd hyn wedi dirywio ym Mwlch Corog oherwydd draenio, llosgi a phori defaid, gyda gwellt y gweunydd yn cymryd drosodd.
Canfu Adroddiad Cyflwr Natur Cymru 2023 fod rywogaethau yng Nghymru yn parhau i ddirywio, gyda 18% (un ym mhob chwech) o’n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu – collwyd 95 rhywogaeth yn barod. Colli a darnio cynefinoedd yw’r cyfrannwr mwyaf at y trychineb hwn, galwad clir am brosiectau fel Coetir Anian.
Rydym yn mynd i’r afael â’r mater brys hwn trwy adfer y cynefinoedd ar draws Bwlch Corog, gyda chynlluniau i ymestyn y prosiect ar draws mwy o’r dirwedd. Dilynwch y dolenni i ddarganfod am y tri phrif fath o gynefin ym Mwlch Corog a’r mesurau rydyn ni’n eu cymryd i’w hadfer.
Gyda’n pwyslais ar leihau ymyriadau rheoli a datblygu teimlad gwyllt y lle, rydym wedi cael gwared ar ffensys mewnol. Nid yw’r cynefinoedd wedi’u rhannu’n weledol nac yn eu triniaeth: o ran natur wyllt, nid yw cynefinoedd bob amser wedi’u diffinio’n dda, ac maent yn aml yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio. Felly, mae rhostir gwlyb yr ucheldir a gorgors yn fathau o fawndir wedi’u gwahaniaethu gan ddyfnder mawn a graddfa’r dwrlawnder, ond mae ganddynt lawer o blanhigion yn gyffredin ac nid ydynt wedi’u diffinio’n glir. Mae coetir yn cynnwys llennyrch agored, mae gan borfa bren ddwysedd isel o goed, a gellir dod o hyd i grwpiau o goed a llwyni mewn ardaloedd o dir agored. Mae’r cydadwaith deinamig hwn o gynefinoedd yn creu amrywiaeth ar draws y dirwedd a thrwy amser, ac mae’n allweddol i’r teimlad o wylltineb a phresenoldeb bywyd gwyllt toreithiog.