GORGORS

DISGRIFIAD

Gallai’r gair ‘corog’ fod yn ffurf ar y gair ‘corsog’ sy’n golygu ‘boggy’. Os yw hynny’n wir, mae enw ein hardal o ucheldir Bwlch Corog yn golygu ‘boggy pass’ sy’n disgrifio’r dirwedd yn dda iawn.

Mae corsydd yn ardaloedd o bridd mawn dan ddŵr wedi’u ffurfio mewn hinsoddau o lawiad uchel ac anweddweddariad isel. Deunydd planhigion marw yw mawn, mwsoglau migwyn yn bennaf. Mae’r amodau asidig dan ddŵr yn atal dadelfennu. Ceir dau fath o gors: cyforgorsydd, a geir yn gyffredinol mewn ardaloedd iseldir ym Mhrydain; a gorgors, sy’n gysylltiedig â’r ucheldiroedd, sef y math sy’n bresennol ym Mwlch Corog.

Golygfa o Fwlch Corog

Ffurfiannau naturiol sy’n tarddu o lynnoedd sy’n ffurfio pantiau yn y dirwedd yw cyforgorsydd. Mae deunydd planhigion marw ar welyau’r llyn yn creu mawn sydd, dros filoedd o flynyddoedd, yn cronni nes bod y llyn wedi’i lenwi. Mae’r mawn yn parhau i ffurfio fel bod y corsydd yn y pen draw yn ffurfio cromen ychydig yn uwch na’r tir o’i amgylch – a dyna’r enw ‘cyforgors’.

Nid yw gorgorsydd yn naturiol yng Nghymru, gan eu bod yn arteffactau o effeithiau dynol ar y dirwedd yn y gorffennol. Mae rhai corsydd wedi eu ffurfio’n naturiol, er enghraifft yng Ngogledd yr Alban a Sgandinafia. Ar ôl Oes yr Iâ, cytrefodd coedwig frodorol bedw, pinwydd a choed eraill y dirwedd, gan gynnwys ardaloedd yr ucheldir. Cliriwyd y goedwig ar gyfer amaethyddiaeth tua 4,500 o flynyddoedd yn ôl. Mewn ardaloedd o lawiad uchel, roedd glaw yn gollwng y maetholion o’r pridd gan nad oedd gorchudd coed yn ei amddiffyn.

Migwyn

Achosodd hyn i’r pridd droi’n fwy asidig a dyddodwyd y mwynau trwythol mewn ‘padell galed’ ar ddyfnder is yn y pridd. Mewn rhai mannau, y siarcol o’r coed llosg creodd y badell galed. Mae’r badell galed yn atal draenio ac yn achosi i’r tir fynd yn ddwrlawn. Gan nad oedd yn bosibl tyfu ar y tir hwn bellach, cytrefwyd y priddoedd asidig, anffrwythlon gan rugoedd neu fwsoglau, sy’n ffurfio’r mawn.

Erbyn tua 1,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y mawndiroedd wedi’u sefydlu’n dda, gan dyfu tua 1 milimetr o ddyfnder y flwyddyn. Mae rhai mawndiroedd yn gysylltiedig â grug: rhostir yr ucheldir. Mae’r mawndiroedd mwy dwrlawn yn gysylltiedig â mwsoglau migwyn: daw’r enw gorgors o’u hymddangosiad homogenaidd a’r ffordd y maent yn ffurfio dros eangderau mawr o dir tonnog. Nodweddir y corsydd gan byllau o ddŵr agored a chlytweithiau helaeth o fwsogl migwyn sy’n ymddangos fel petaent yn arnofio ar ddŵr, a’rr ddaear yn symud o dan eich traed am ardal eang wrth gerdded arno.

BWLCH COROG

Ym Mwlch Corog, draeniwyd yr ardal ucheldirol o tua 120 hectar (300 erw) yn ystod y 1930au trwy gloddio 11 cilometr o ffosydd draenio neu ‘afaelion’. Gosodwyd y rhain ar rannau mwy gwastad y gorgors yn ogystal ag ar lethrau’r rhostir. Y syniad oedd sychu’r pridd i wneud porfa gynhyrchiol. Nid oes gennym unrhyw gofnod o sut y datblygodd y llystyfiant ar ôl ei ddraenio ond erbyn 2017, pan brynwyd Bwlch Corog ar gyfer y prosiect, roedd twf ungnwd sefydledig o wellt y gweunydd (Molinia caerulea) yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ardal.

MOLINIA

Mae’r tueddiad i Molinia ddominyddu llystyfiant rhostir yn ffenomenon adnabyddus ym Mhrydain a chredir ei fod yn gysylltiedig â draenio, llosgi, cynnydd mewn pori defaid yn hytrach na gwartheg, a dyddodiad nitrogen o lygredd aer.  

Mae Molinia yn rhywogaeth laswellt frodorol ac yn rhan sylweddol o rai cynefinoedd arbennig, er enghraifft porfa Rhos, coetiroedd gwlyb penodol, choetiroedd corsiog.  

Daw’r enw Saesneg ‘purple moor grass’ o liw tyfiant cynnar y gwanwyn – yn ystod yr haf mae’n lliw gwyrdd arferol glaswellt. Mae’n annymunol i lawer o anifeiliaid pori ac mae’n laswellt collddail, sy’n golygu bod y dail (llafnau) yn marw yn y gaeaf. Mae hyn yn creu lliw gwellt enigmatig rhostir y gaeaf. Y broblem gyda Molinia yw, trwy beidio â chael ei bori, mae’n trechu planhigion eraill, ac mae’r glaswellt marw yn ffurfio mat trwchus sy’n mygu’r ddaear, gan atal planhigion eraill rhag tyfu. Yn y pendraw, ungnwd yw, heb fawr o amrywiaeth na diddordeb bywyd gwyllt, a dyna’n union sydd gennym ym Mwlch Corog. Mae ganddo strwythur nodweddiadol o dwmpathau mawr heb lawer o le rhwng twmpathau, a all wneud cerdded y rhostir yn amhleserus.

Coed criafol
Molinia

DRAENIAD

Ceir problemau eraill sy’n gysylltiedig â draenio’r corsydd. Mae cors mewn cyflwr da yn dal cyfaint enfawr o ddŵr ac yn ei ryddhau’n araf i nentydd yr ucheldir. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr ardaloedd lle mae corsydd yn digwydd, lle gall glawiad fod yn drwm ac yn hir. Os yw’r gors yn cael ei draenio, mae dŵr glaw yn cael ei dynnu oddi ar y bryn bron yn syth trwy’r gafaelion ac i’r nentydd a’r afonydd. Felly mae llifogydd yn digywdd yn amlach ac maent yn fwy difrifol i lawr yr afon ac mae’r rhain yn aml yn effeithio ar ardaloedd poblog. Hyd yn oed heb lifogydd, mae’r llif dŵr gormodol yn cyrraedd y cefnfor heb ddarparu buddion i fywyd gwyllt na chymdeithas ddynol. I’r gwrthwyneb, mewn cyfnodau sych, heb i ddŵr gael ei storio yn yr ucheldiroedd, mae’r nentydd a’r afonydd yn sychu’n haws, gan achosi prinder dŵr i fywyd gwyllt a bodau dynol.

Gall draenio hefyd yn achosi erydiad pridd oherwydd dŵr sy’n llifo’n gyflym yn y gafaelion. Mae hyn yn halogi purdeb dŵr a all effeithio’n ddifrifol ar fywyd gwyllt, er enghraifft wyau pysgod, a gall achosi problemau i gyflenwadau dŵr dynol.

Mae mawn, fel llystyfiant marw, yn storio carbon. Mae’n dibynnu ar fod â dŵr yn barhaol ac anaerobig i gynnal y cyflwr sefydlog hwn. Gyda draeniad, mae’r mawn yn sychu ac mae’r carbon yn agored i’r aer, gan ganiatáu iddo ocsidio. Fel carbon deuocsid, mae’n dianc i’r atmosffer fel nwy tŷ gwydr.

Er gwaethaf eu gwreiddiau artiffisial o ganlyniad i ddatgoedwigo, mae gorgorsydd bellach yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu cynhalieath o fywyd gwyllt a buddion eraill.

 

ADFER

Cyflawnir adfer cors ym Mwlch Corog trwy wrthdroi’r draeniad i adfer hydroleg naturiol y mawndir. Cafodd y gafaelion draenio eu blocio yn ystod 2019 gan ddefnyddio cyfres o argaeau mawn wedi’u gosod bob 10 metr ar hyd y gafaelion. Mae’r mawn ar gyfer yr argaeau yn cael ei gymryd o amgylch y gafael, fel bod pant yn cael ei gloddio uwchben yr argae: wrth i’r llif gael ei stopio mae pwll yn ffurfio. Bellach mae gennym dros fil o byllau bach ar draws y safle, sy’n creu cynefin newydd i fywyd gwyllt. Dros amser, bydd planhigion yn cytrefu’r dŵr llonydd a bydd y deunydd planhigion marw yn llenwi’r pyllau a’r ffosydd.

ADFER

Cyflawnir adfer cors ym Mwlch Corog trwy wrthdroi’r draeniad i adfer hydroleg naturiol y mawndir. Cafodd y gafaelion draenio eu blocio yn ystod 2019 gan ddefnyddio cyfres o argaeau mawn wedi’u gosod bob 10 metr ar hyd y gafaelion. Mae’r mawn ar gyfer yr argaeau yn cael ei gymryd o amgylch y gafael, fel bod pant yn cael ei gloddio uwchben yr argae: wrth i’r llif gael ei atal mae pwll yn cael ei ffurfio. Bellach mae gennym dros fil o byllau bach ar draws y safle, sy’n greu cynefin newydd i fywyd gwyllt. Gydag amser, bydd planhigion yn cytrefu’r dŵr llonydd a bydd y deunydd planhigion marw yn llenwi’r pyllau a’r ffosydd.

Adfer mawndiroedd
Pyllau ar hyd y gafaelion

Yn y cyfamser, mae’r hydroleg naturiol yn cael ei adfer i’r mawndir ar unwaith. Mae’r ddaear yn amlwg yn wlypach neu hyd yn oed yn ddwrlawn bob ochr i’r gafaelion. Yr effaith ar lystyfiant fydd lladd Molinia a fydd yn cael ei ddisodli’n raddol gan fwsoglau migwyn. Effaith fwy uniongyrchol yw cytrefu planhigion rhostir yn y mawn agored ar ymylon y pwll.

Ceir ychydig o glytweithiau sylweddol o fwsogl migwyn ar draws y rhostir. Mae hefyd wedi goroesi mewn clystyrau bach sydd wedi’u cuddio ymhlith y Molinia. Mae rhai prosiectau adfer corsydd wedi cyflwyno mwsogl migwyn i gyflymu’r broses adfer. Gallai hyn fod yn bosibilrwydd yng Nghoetir Anian; rydym hefyd yn barod i gymryd ein hamser a lleihau ymyrraeth bellach. Ar ôl cael gwared ar ddraeniad annaturiol y safle, bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r llystyfiant yn datblygu.

Pwll cors
Migwyn

Am fwy o wybodaeth ar ein gwaith blocio gafaelion, gweler ein erthygl ar adfer corsydd.

Am fwy o wybodaeth am lystyfiant ym Mwlch Corog gweler:
Vegetation survey of Bwlch Corog, Ceredigion 2005 (part 1)
Vegetation survey of Bwlch Corog, Ceredigion 2005 (part 2)
Bwlch Corog Vegetation Assessment Sep 2017