Mae safle Coetir Anian ym Mwlch Corog yn cynnwys ystod o gynefinoedd – esgynir o geunant afon, trwy goetir hynafol, cors flanced a rhostir i gopa bychan. Lleolir y bryn rhwng dau gopa uwch: Pen Creigiau’r Llan a Phen Carreg Gopa. Mae’r bryniau hyn yn dominyddu ac yn benthyg eu henwau i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, y ddau wedi’u dynodi ar gyfer cors flanced a rhostir yr ucheldir. Mae cynefinoedd dirywiedig ein tir yn cynnig eu hunain ar gyfer adfer cors flanced a rhostir yr ucheldir. Bydd hyn nid yn unig yn gwella amodau ar gyfer bywyd gwyllt ar ein tir ein hunain, ond hefyd yn darparu cysondeb cynefinoedd ar draws y dirwedd trwy gysylltu’r ardaloedd presennol o gynefin da.
Trwy arolygon safle a dadansoddiad o ffotograffiau o’r awyr, llwyddodd yr ecolegydd Stuart Hedley i fapio rhwydwaith o 11 cilomedr o ffosydd draenio, neu ‘grips’. Mae goruchafiaeth gwellt y gweunydd (Molinia caerulea) ar draws y rhan fwyaf o’r safle yn debygol o fod yn ganlyniad i sawl ffactor:
draenio tir,
llosgi hanesyddol llystyfiant y rhostir,
defaid yn pori,
dyddodiad nitrogen o lygredd aer.
Arwyddocâd defaid yw nad ydyn nhw’n pori’r Molinia gwydn, ond gall gwartheg a cheffylau ei bori ac ar ben hynny mae’r anifeiliaid trymach yn gallu chwalu’r twmpathau mawr trwy eu migno. Gallwn ddylanwadu ar yr holl ffactorau hyn trwy ein rheolaeth o’r safle ac eithrio’r llygredd nitrogen. Yn ffodus, mae’r strategaethau a argymhellir yn cyd-fynd â’n polisi trosfwaol o alluogi prosesau naturiol i gael blaenoriaeth.
Mae pori gyda gwartheg a cheffylau yn cyd-fynd â chyflwyno llysysyddion mawr brodorol, sy’n rhan naturiol o’r ecosystem.
Mae gwrthdroi draeniad tir trwy rwystro’r gafaelion yn gyson â chynnal ymyriadau cychwynnol i sefydlu amodau mwy naturiol.
Mae ymatal rhag llosgi’r llystyfiant yn cyd-fynd â’r polisi o’r ymyrraeth leiaf ar gyfer rheoli safle yn barhaus.
Gyda’r ffactorau hyn mewn golwg, mae’n bosib taw blocio’r gafaelion yw’r gweithgaredd adfer mwyaf arwyddocaol ar gyfer rhannau uwch y safle. Trwy ymuno â chynllun amaeth-amgylchedd Glastir Uwch Llywodraeth Cymru, galluogwyd ni i dderbyn cyllid cyfalaf ar gyfer y gwaith hwn, ynghyd â thaliadau blynyddol am bori ar ddwyster addas.
Buom yn ffodus i gyflogi Peter Watkin, gweithredwr cloddwyr hynod brofiadol sydd â phrofiad hir o adfer mawndir a chors. Mewn partneriaeth â gwyddonwyr a rheolwyr tir Adnoddau Naturiol Cymru (a’i ymgnawdoliadau blaenorol), mae Peter wedi datblygu technegau ar gyfer adfer hydroleg naturiol y cynefinoedd dyfrlawn hyn. Ymhlith y nifer o safleoedd lle mae e wedi gweithio ceir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron a Chors Fochno yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Natur y gwaith ym Mwlch Corog oedd blocio’r gafaelion draenio trwy gloddio pwll bach neu grafu o fewn y gafaelion i ddarparu’r deunydd (mawn) i adeiladu argae ar ochr isaf y pwll. Crëwyd yr argaeau hyn bob 10 metr ar gyfartaledd ar hyd y gafaelion – ar dir mwy serth mae angen iddynt fod yn agosach, ac ar dir mwy gwastad ceir mwy o le rhyngddynt. Oherwydd amodau gwlyb iawn y ddaear, defnyddir peiriannau cloddio arbenigol, sy’n ysgafn ac yn meddu ar draciau llydan iawn. Er gwaethaf hyn, cafodd Peter foment lletchwith yn rhan ddyfnaf y gors pan suddodd y peiriant i mewn uwchben pen y cledrau: trwy ddefnyddio’r bwced llwyddodd i dynnu’r peiriant allan o drafferth, ond cael a chael oedd hi mae’n debyg.
Gweithiodd Peter ar y prosiect hwn yn ysbeidiol rhwng Ebrill a Medi 2019. Canlyniad y gwaith yw cyfanswm o tua 1,200 o byllau mewn llinellau sy’n olrhain y rhwydwaith o afaelion. Dangosa awyrlun a dynnwyd yn ystod yr wythnos olaf o waith y pyllau yn glir iawn. Gwelwyd y canlyniadau ar y ddaear yn syth, gyda’r pyllau’n llenwi â dŵr wrth iddynt gael eu hadeiladu, a’r dŵr yn llifo allan i ochrau’r gafael, lle mae’r llystyfiant yn llawn dŵr. Yn y tymor hwy, rydym yn disgwyl gweld gwellt y gweunydd yn lleihau a’r tir dyfrlawn yn cael ei gytrefu gan figwyn, llafn y bladur a phlanhigion eraill sy’n ffynnu mewn amgylchedd gwlyb.