PARTNERIAETH CORFFORAETHOL

Ateb i’r argyfwng ecolegol

Yn y cyfnod hwn o argyfwng ecolegol rydym yn wynebu dewis. Gallwn wneud dim a gwylio ein byd yn parhau i ddirywio, neu gallwn weithio gyda’n gilydd i newid y llwybr i un o obaith. Yn ystod Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau 2021-30, fe’n hanogir i ddod â dinistr natur i ben a chyfeirio ein hadnoddau at adfer cynefinoedd a rhywogaethau. Mae angen i ni i gyd gymryd rhan mewn atgyweirio byd sydd wedi’i ddifrodi a gweithio i adfer digonedd naturiol.

Yng Nghoetir Anian ein nod yw chwarae’r rhan lawnaf y gallwn wrth adfer ecosystemau. Mae cysylltu pobl â natur wyllt yn ganolog i’r gwaith hwn ac yn darparu buddion cymdeithasol trawsnewidiol. Bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer 2021-30:

Cynyddu arwynebedd tir Coetir Anian a gweithio gyda thirfeddianwyr cyfagos.

Parhau â gweithgareddau i adfer cynefinoedd naturiol. Cynyddu bywyd gwyllt trwy brosiectau ailgyflwyno rhywogaethau.

Parhau â’n rhaglen Ysgolion Cynradd a Gwersylloedd Ieuenctid llwyddiannus ar gyfer y gymuned leol.

Adeiladu ar y rhaglenni ysbrydoledig hyn i ddarparu gweithgareddau ar gyfer ystod fwy amrywiol o gyfranogwyr.

Buddion busnes

Mae cymdeithas yn newid. Mae pobl yn fwyfwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd i’r blaned ac eisiau bod yn rhan o’r ateb. Fel defnyddwyr, buddsoddwyr a gweithwyr, mae pobl eisiau sicrhau nad yw eu hadnoddau yn cyfrannu at broblemau amgylcheddol ond yn hytrach eu bod yn helpu i wella’r byd. Mae gan hyn oblygiadau diriaethol i fusnesau.

Rydym yn cynnig cyfle i fusnesau chwarae rhan yn y gwaith o adfer natur trwy ddod yn bartneriaid corfforaethol i Goetir Anian. Mae partneriaethau corfforaethol yn hanfodol i gefnogi ein gwaith.

Partneriaethau

Mae tri opsiwn partneriaeth, wedi’u henwi ar ôl prif goed y goedwig law Geltaidd. Os nad oes yr un o’r rhain yn gweddu i’ch gofynion a bod gennych ddiddordeb mewn cefnogi elfen benodol o’n gwaith, cysylltwch â ni i drafod.

BUDDION AELODAETHCRIAFOLEN – £500 paBEDWEN – £1,500 paDERWEN – £5,000 pa
Defnydd logo Coetir Anianyyy
Eich rhestru ar ein gwefan yyy
Eich logo ar ein gwefan yy
Cyhoeddusrwydd cyfryngau ynghylch y bartneriaeth  y
Plannu coed brodorol ar y safle1030100
Taith gerdded dywysedig ar gyfer grŵp o staff neu gwsmeriaid

yyy
Profiad gwyllt ar y coetir i grŵp o staff neu gwsmeriaid 1 diwrnod3 diwrnod + gwersylla
Cyflwyniad unigryw am y prosiect i staff neu gwsmeriaid

  y

 

Os ydych yn dymuno cefnogi ein gwaith yn fwy hael, gallwn drafod trefniant uwch bartneriaeth wedi’i deilwra i’ch gofynion.