
Yn gynt yr haf hwn cododd y cyfle i rai o’n ffrindiau sy’n ffoaduriaid fynychu gŵyl El Sueño Existe ym Machynlleth ym mis Awst. Mae’r ŵyl hon yn dathlu diwylliannau Cymru ac America Ladin ac yn denu pobl o bell ac agos. Mae’n cynnwys sgyrsiau a ffilmiau ar themâu gwleidyddol ac wrth gwrs llawer o gerddoriaeth gwych o America Ladin.
Ein cysylltiadau yn Wolverhampton yw George a Jan Reiss. Eglura George sut y cododd y cyfle hwn: ‘Dechreuodd y cyfan gyda chyd-ddigwyddiad pan aeth Jan a minnau ag Esmeralda ac Alessandra o El Salvador i wirfoddoli gyda Choetir Anian ym Mwlch Corog ychydig filltiroedd o Fachynlleth. Holodd un o’r gwirfoddolwyr eraill os oeddem yn gwybod bod gan yr ŵyl ym Machynlleth El Salvador fel un o’i themâu eleni. Doedden ni ddim hyd yn oed yn gwybod bod gŵyl yno o gwbl!’
Rhoddodd Mat, cadeirydd ein bwrdd ymddiriedolwyr, George mewn cysylltiad â threfnwyr yr ŵyl, a oedd yn frwd a chefnogol iawn, gan gynnig dwsin o docynnau am ddim i’r ffoaduriaid – ni fyddent fel arall wedi gallu fforddio mynd. Cynigiwyd le ar gyfer stondin i ni hefyd i hyrwyddo gwaith Coetir Anian a City of Sanctuary.
Bu tridiau’r ŵyl yn brofiad pleserus ac arwyddocaol. Siaradodd Esmeralda am y problemau yn El Salvador gyda’r bygythiad cyson o drais a’i hofnau ei hun am ddiogelwch ei theulu, a hefyd am y cymorth pwysig a ddarperir gan sefydliadau sy’n cefnogi ceiswyr lloches yn y DU. Yna cyflwynodd George sgwrs am City of Sanctuary a Choetir Anian. I gloi’r ŵyl, gwisgodd tair o ferched El Salvador sgertiau glas llaes er mwyn perfformio dawns draddodiadol.




Wedi dychwelyd i Wolverhampton, bu George yn myfyrio ar y profiad a rhannodd y casgliad gyfoethog hon o brofiadau cadarnhaol:
– Aeth pobl i ŵyl am y tro cyntaf.
– Aeth pobl i wersylla am y tro cyntaf.
– Gwelodd plant nad oedd erioed wedi bod i gefn gwlad y DU ddefaid a gwartheg am y tro cyntaf.
– Gwnaeth y ceiswyr lloches ffrindiau a chysylltiadau newydd.
– Daethant i wybod am Gymru a’i hiaith a’i diwylliant.
– Gwelodd y ffoaduriaid fod diwylliannau America Ladin yn cael eu parchu drwy gydol yr ŵyl gan helpu eu hunanhyder.
– Fe wnaethom rannu slot yn y sesiwn gyntaf i siarad am City of Sanctuary a Choetir Anian.
– Arweiniodd Esmeralda y gweddïau yn Sbaeneg yn y gwasanaeth cymun bore Sul.
– Cyfarfu mynychwyr yr ŵyl â cheiswyr lloches ar sail gyfartal.
– Mwynhawyd llawer o ddawnsio a cherddoriaeth.
Derbyniwyd neges gan Ingrid sy’n cloriannu’r profiad: “Muchas gracias por todo! Disfrutamos mucho y aprendimos mucho de esta nueva experiencia”