Aildyfiant coed Mai 2021

Mae gwirfoddoli ar ein diwrnodau gwaith misol yn ffordd wych o gymryd rhan yn yr adferiad i’r ecosystem sy’n digwydd yng Nghoetir Anian. Mae hefyd yn dda iawn i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ac mae’n un o’r rhaglenni rydyn ni’n eu rhedeg ar gyfer llesiant a chysylltu â natur..

Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o greu prosiect i geiswyr lloches dreulio amser yn ein tirwedd wyllt hardd, i ffwrdd o gyfyngiadau’r ddinas. Eisioes, bu cwpl o geiswyr lloches i’r coetir ar ddiwrnodau gwaith gwirfoddol yng nghwmni George a Jan Reiss, unwaith i blannu coed ym mis Chwefror 2020 ac eto ym mis Medi 2021. Daw Ali o Iran lle cafodd ef a’i wraig eu herlid gan y awdurdodau ar ôl iddynt droi at Gristnogaeth. Daw Awal o deulu ffermio yn Ethiopia, lle mae ansefydlogrwydd gwleidyddol ar sail hunaniaeth ethnig yn achosi trais ac ansicrwydd. Ymosododd milwyr y llywodraeth ar bentref Awal a lladd aelodau o’i deulu. Cafodd ef ei arteithio cyn llwyddo i ddianc o’r wlad. Yna dioddefodd y siwrnai feichus ar draws y Sahara a Môr y Canoldir, gan dystio i farwolaeth llawer o’i gyd-deithwyr oherwydd diffyg dŵr a bwyd. Fel ffermwr, mae Awal yn colli gweithio ar y tir, ac wrth ei fodd yn ymweld â Chymru, sy’n ei atgoffa o’i gartref yn ucheldiroedd Ethiopia.

Adnabu George a Jan lawer o geiswyr lloches yn bersonol a dywedant, “Am ryw reswm rydym yn aml yn tybio bod yr holl ffoaduriaid o gefndiroedd trefol, ond mewn gwirionedd mae llawer yn dod o gefn gwlad. I’r bobl hyn, sy’n gaeth mewn tai cyfyng mewn dinasoedd ledled y DU, mae’r amser a dreulir mewn tirweddau gwyrdd yn hynod fuddiol.”

Yn ystod y diwrnod gwaith diweddar buom yn torri a chylchrisglo y pyrwydd Sitca anfrodorol a oedd wedi tyfu ar hyd llain o dir wrth ymyl ein ffens. Cawsom ganiatâd i gael gwared ar y pyrwydd i alluogi cynefin y rhostir a choed brodorol i ffynnu. Bydd hyn hefyd yn atal hadu pyrwydd ymhellach ar ein safle ac yn caniatau i goed brodorol a phlanhigion rhostir ymledu i’n tir lle mae gwellt y gweunydd yn dominyddu. Gan ddefnyddio offer llaw yn unig, profodd hyn i fod yn waith caled iawn.  

Sied - Y belen gyntaf

Awal yn cylchrisglo

Dangosodd Awal ac Ali eu sgil a’u hegni ar y tir mwyaf garw. Mae diolch yn ddyledus i bawb am y gwaith caled yn torri coed yn ogystal â stagro ar draws llystyfiant corsiog a thwmpathog y rhostir. Bydd y gwaith hwn yn cael effaith sylweddol ar warchod ac adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Pobl yn ymyl yr afon

 

Gyda’n darpar bartneriaid

Yn ddiweddar, datblygwyd y berthynas rhyngom a’r ceiswyr lloches ymhellach pan ymwelodd darpar bartneriaid o Ganolbarth Lloegr â ni ar y safle. Wolverhampton yw un o’r prif leoliadau lle mae ceiswyr lloches yn cael eu lletya wrth iddynt aros am ganlyniadau eu cais am loches, sydd weithiau’n cymryd blynyddoedd lawer i’w brosesu. Yn y cyfamser, ychydig rhyddid sydd ganddynt ac adnoddau cyfyngedig, er enghraifft cânt eu gwahardd rhag weithio am gyflog.  

Ein darpar bartneriaid newydd yw elusennau sy’n gweithio gyda cheiswyr lloches, gan eu helpu yn ystod yr amser heriol iawn hwn. Fel dywed Mike Fox o Grynwyr Wolverhampton, “Mae gwibdeithiau i ffwrdd o’r ddinas wedi profi i fod yn ryddhad enfawr o bwysau bob dydd, yn enwedig pan gall unigolion a theuluoedd ddod i adnabod ei gilydd yn well mewn amgylchedd diogel.”