GWERSYLLOEDD BYW’N WYLLT

Ymgollais yn llwyr yn y cyfuniad o athroniaeth, yr ysbrydol a’r ymarferol. Roedd yr addysgu’n ddewr ac wedi’i gynllunio’n yn dda.

Aelod o'r Gwersyll Byw'n Wyllt

Am bris rhesymol, cyniga ein Gwersylloedd Byw’n Wyllt gyfle i westeion ddysgu sgiliau byw a ffynnu yn y gwyllt. Maent hefyd yn ymwneud â llawer mwy na dysgu sgiliau goroesi yn unig, mae ein gwersylloedd yn gyfle i gamu allan o wrthdyniadau a thrapiau’r byd modern, gan ddysgu troedio’n ysgafn ar y Ddaear.

 … trwy gasglu a gwneud daeth cysylltiad deu-ffordd, cwbl newydd a dyfnach â natur i’r amlwg … gan fy ngrymuso i sylweddoli bod cymaint o roddion o’n cwmpas ym myd natur.

Aelod o'r Gwersyll Byw'n Wyllt

Mae ein Gwersylloedd Byw’n Wyllt yn cynnwys pum elfen allweddol (bydd pob gwersyll yn cynnwys dewis gwahanol o weithgareddau yn dibynnu ar argaeledd tymhorol):

Bwyd gwyllt: dysgu adnabod, cynaeafu’n gyfrifol, prosesu a chadw’r bwydydd gwyllt sydd gan y tir i’w cynnig ar sail egwyddorion chwilota adfywiol a chynhenid.
Meddyginiaeth wyllt: dysgu adnabod, cynaeafu, prosesu a chadw’r meddyginiaethau gwyllt sydd ar gael inni o blanhigion ar gyfer gwella anhwylderau bob dydd.
Crefft: dysgu sut i ddefnyddio deunyddiau gwyllt wedi’u chwilota i wneud pob math o eitemau defnyddiol a hardd fel: llwyau, bowlenni, basgedi, llinyn, rhaff, bagiau ac unrhywbeth arall bydd ei angen yn y gwersyll!
Sgiliau: dysgu sgiliau hanfodol i oroesi a ffynnu yn y gwyllt, fel gwneud tân gyda ffrithiant a golosged naturiol, dod o hyd i ddŵr, sgiliau llechwraidd, sut i ddarllen y dirwedd trwy adnabod planhigion a llwybrau ac arwyddion anifeiliaid i ddehongli iaith adar
Cymuned: byw gyda’n gilydd mewn llwyth dros dro, gan gofio ffyrdd hynafol o uniaethu a bod yn y byd. Rhannu straeon a syniadau o amgylch y tân, a chofio beth yw bod yn ddynol.

Helpodd yr amseroedd tawel o fyfyrio fi i ymgorffori parch at natur fel athro a thywysydd.

Aelod o'r Gwersyll Byw'n Wyllt

Rwy’n teimlo fy mod i wedi cael trît enfawr!

Aelod o'r Gwersyll Byw'n Wyllt