Mae pennod newydd ar fin dechrau yng Nghoetir Anian wrth i ni ffarwelio â’n Cyfarwyddwr Prosiect presennol, Simon Ayres, ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae Simon wedi gweithio’n ddiflino i sefydlu’r prosiect a’i ddatblygu’n fenter lewyrchus sydd o fudd i natur a phobl. Yn ei eiriau, “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous gyda Coetir Anian, i fod yn rhan o’r prosiect, gan ei fod wedi tyfu o fod yn syniad i fod yn realiti. Yr uchafbwyntiau yw gweld y cynefinoedd yn gwella gyda phori ceffylau a gwartheg. Hefyd, gwylio’r sied hardd a’r toiled compost yn siapio. Ac yn enwedig gweld y grwpiau o blant a phobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion yn cael cymaint allan o dreulio amser yn y lle gwych hwn. Mae’n fraint wirioneddol gweithio gyda fy nghydweithwyr dawnus ac rwy’n bwriadu parhau i gymryd rhan fel gwirfoddolwr. Edrychaf ymlaen at drosglwyddo rôl y Cyfarwyddwr i berson newydd a all ddod â syniadau ffres ac egni i’r prosiect.”

Simon Ayres

Cyfarwyddwr Prosiect Ymadawol

Fel staff ac ymddiriedolwyr, rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl waith caled ac egni y mae Simon wedi’i roi i’r prosiect ac yn dymuno’n dda iddo yn ei anturiaethau yn y dyfodol.

Mae esgidiau Simon yn sicr yn rhai mawr i’w llenwi ond rydym yn falch o gyhoeddi penodiad Katy Harris i rôl Cyfarwyddwr y Prosiect. Mae gan Katy gefndir diddorol ac amrywiol gan gynnwys amser a dreuliwyd yn byw ac yn gweithio i gyrff anllywodraethol amgylcheddol yn nwyrain Rwsia, ar gadwraeth coedwigoedd boreal. Mae hi wedi gweithio i elusennau amgylcheddol yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd, gan gynnwys rolau yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, gyda Coed Lleol – Small Woods, ac yn fwy diweddar yr RSPB. Mae gan Katy gyfoeth o brofiad mewn datblygu a rheoli prosiectau yn ogystal â chodi arian.
Mae ei diddordeb cryf mewn cadwraeth natur, adfer cynefinoedd, galluogi cymdeithas i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac mewn cysylltu pobl a chymunedau â natur yn asio’n berffaith â nodau Coetir Anian.

Nid yn unig cyfarwyddwr newydd sydd gennym ond rydym hefyd wedi bod yn ffodus i benodi Deborah Joffe fel ein Rheolwr Codi Arian rhan amser. Mae Deb yn godwr arian a rheolwr perthnasoedd llwyddiannus, rhagweithiol gyda diddordeb cryf yn y sector amgylcheddol. Mae hi wedi gweithio a gwirfoddoli yn y sector elusennol ers pymtheg mlynedd mewn amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys fel Cydlynydd Grantiau ac Ymddiriedolaethau, Swyddog Dyngarwch a Rheolwr Codi Arian a Datblygu. Rydym yn sicr y bydd ei chyfoeth o brofiad yn amhrisiadwy i Goetir Anian.

Katy Harris

Cyfarwyddwr Prosiect Newydd

Deb Joffe

Rheolwr Codi Arian