Aildyfiant Coed Mai 2021

Mae pobl yn rhan o natur, sy’n golygu bod gweithgaredd dynol mewn ecosystemau yn naturiol. Sut gallwn ni sicrhau bod bodau dynol yn ddylanwad buddiol yn y byd? Yn wahanol i gynhyrchu bwyd mewn dull diwydiannol, gall ffermio cymysg ar raddfa fach ddarparu buddion amgylcheddol yn ogystal â manteision cymdeithasol ac economaidd.

Mae safbwynt Coetir Anian ar ‘ailwylltio’ yr un fath â’r hyn a gyflwynwyd yn 2019 ar ein gwefan. Yr agwedd bositif o ailwylltio fel mudiad yw’r agwedd gadarnhaol tuag at adfer natur ar raddfa ystyrlon ar draws y byd; a’r gobaith y mae hyn yn ei greu i bobl yng nghyd-destun yr argyfwng bioamrywiaeth.

Problem gyda ailwylltio yw ei fod yn parhau i fod wedi’i ddiffinio’n wael ac felly’n agored i ddehongliadau am yr hyn y mae’n ei olygu, gan ei adael yn agored i amheuaeth, neu gael ei wanhau a’i ehangu i bwynt o fod yn ddiystyr. Problem arall yw pan fydd cynigwyr ailwylltio yn beirniadu mathau eraill o ddefnydd tir, sy’n tynnu oddi ar ei neges gadarnhaol.

Mae diffiniad ‘Rewilding Europe’ ‘…..mae’n ymwneud â gadael i natur ofalu amdano’i hun…..’ – yn ôl pob golwg yn eithrio pobl o rôl reoli yn y dirwedd. Nid yw hyn, mewn gwirionedd, yn nodweddiadol o brosiectau yn y DU, sydd wedi dangos manteision enfawr i fywyd gwyllt, gweler er enghraifft Knepp Esate neu Trees for Life.

Daw’r nod o eithrio ymyrraeth ddynol o’r naratif hynny bod bodau dynol ar wahân i natur, gyda dieithrwch o’r tir o ganlyniad. Mae’n arteffact diwylliannol ac yn ganlyniad i’r cliriadau a’r llociau a ddechreuodd yn y DU yn ystod yr 11eg ganrif a wahanodd y rhan fwyaf o bobl oddi wrth y tir ac oddi wrth gynhyrchu bwyd.

Mae Monbiot yn hyrwyddwr amlwg o’r dirwedd heb ddyn, gan ddadlau y dylai anifeiliaid pori gael eu disodli gan goetir yn yr ucheldiroedd. Yn ei erthygl ‘The most damaging farm products? Organic, pasture-fed beef and lamb’  mae’n dadlau’r achos dros gig ffug a gynhyrchir mewn ffatrïoedd i gymryd lle protein anifeiliaid. Bydd y weledigaeth dystopaidd hon ar gyfer cymdeithas, lle mae cynhyrchu bwyd yn cael ei ddiwydiannu a’i ganoli fwyfwy, yn gwneud pobl hyd yn oed yn fwy dibynnol ar gorfforaethau mawr, gan ganiatáu i gyfoeth a phŵer gael eu crynhoi fwyfwy yn nwylo elitaidd. Nid yw’n syndod bod llawer o gefnogwyr eraill cig ffug yn unigolion a chorfforaethau hynod gyfoethog.

Derbyniodd erthygl Monbiot lythyr yn ymateb ‘Demonising organic beef and lamb won’t help save the Earth’ gan nifer o sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau ffermio cynaliadwy:
Cymdeithas Biodynamig, Fforwm Organig Lloegr, y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, Porfa am Oes, Cynghrair Gweithwyr Tir, a’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy. Ynddo, maen nhw’n ei feirniadu am anghywirdebau ac amddewis a dethol tystiolaeth, gan anwybyddu ymchwil sy’n tanseilio ei safbwynt.

Mewn ymateb arall, gan y cogydd Thomasina Miers, ‘Eating meat isn’t a crime against the planet – if it’s done right’ tynnwyd sylw at y problemau iechyd a achosir gan fwyd wedi’i brosesu’n fawr, a throsglwyddo cynhyrchu bwyd i ddwylo ychydig o chwaraewyr pwerus. Mae hi hefyd yn sôn am fanteision ffermio cymysg ar raddfa fach i bridd a bywyd gwyllt, sy’n dibynnu ar anifeiliaid i roi ffrwythlondeb i’r pridd.

Gwartheg yr Ucheldir

Mae’r ddibyniaeth ar ffermio ar raddfa ddiwydiannol, gyda’i ddefnydd o wrtaith amonia a phlaladdwyr cemegol, wedi arwain at ddinistrio bywyd gwyllt, colli pridd a llygredd dŵr. Mae hyn oll wedi tanseilio iechyd dynol a’r ecosystemau y mae ffermio ei hun yn dibynnu arnynt, ac wedi creu cymdeithas lle mae bodau dynol yn bell o fyd natur. Y rhesymeg dros hyn yw ei bod yn fwy effeithlon cynhyrchu bwyd fel ungnwd ar raddfa enfawr.

Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn dangos bod ffermio cymysg ar raddfa fach yn cynhyrchu mwy o fwyd fesul uned arwynebedd: mae ffermydd ar raddfa fach yn cynhyrchu 30% o fwyd y byd ar ddim ond 12% o dir amaethyddol. At hynny, mae cynhyrchu lleol ar raddfa fach yn galluogi cymunedau i fod yn fwy cysylltiedig â chynhyrchu bwyd, trwy brynu’n uniongyrchol a thrwy fwy o gyfleoedd i weithio ar y tir. Hywydda ‘The Land Workers Alliance’ ffermio amaeth-ecolegol a sofraniaeth bwyd, a ddiffinnir fel:
“Hawl pobl i fwyd iachus a diwylliannol briodol a gynhyrchir trwy ddulliau ecolegol gadarn a chynaliadwy, a’u hawl i ddiffinio eu systemau bwyd ac amaethyddiaeth eu hunain. Mae’n rhoi’r rhai sy’n cynhyrchu, prosesu a bwyta bwyd iach a lleol wrth galon ein systemau amaethyddiaeth a bwyd, yn lle gofynion cwmnïau marchnad a thrawswladol”.

Mae amaethyddiaeth yn broblem os yw’n gwneud y byd yn llai amrywiol a thoreithiog yn ecolegol. Fodd bynnag, mae arferion ffermio amaeth-ecolegol ac adfywiol yn dangos y gellir ei wneud mewn ffordd sy’n helpu rhywogaethau eraill. Mae Cynghrair y gweithwyr Tir ac awduron fel Chris Smaje ( A Small Farm Future) yn cynnig golwg obeithiol ar gymdeithasau gyda mwy o hunanddibyniaeth, ymwneud uniongyrchol â chynhyrchu ar gyfer eu hanghenion, a golwg gadarnhaol ar waith llaw. Dyma’r unig ffordd y byddwn yn esblygu tuag at gymdeithas a all weithio mewn cytgord â rhywogaethau eraill a darparu ffordd iach ac ystyrlon o fyw i’r mwyafrif o bobl.

Mae’n bwysig cofleidio safbwynt nad yw’n ddeuoliaethol o fodau dynol a natur. Nid yw rhoi bodau dynol mewn categori ar wahân i weddill natur yn ddim mwy na myth diwylliannol. Mae bodau dynol bob amser wedi bod yn ddibynnol ar y byd naturiol ac nid yw hyn yn llai gwir heddiw. Yn ddiamau, rydym yn rhan o natur. Mae’r myth sy’n gynhenid yn ein heconomi wleidyddol bresennol yn gyrru’r ymddygiadau dinistriol sy’n bygwth ein bodolaeth ni a llawer o rywogaethau eraill.

Yn ‘Braiding Sweet Grass’, disgrifia Robin Wall Kimmerer sut mae diwylliannau Brodorol America yn seiliedig ar barch at y byd naturiol. Mae’r diwylliannau hyn yn gweld rôl bodau dynol ym myd natur fel helpu ‘ein cefndryd’ y rhywogaethau eraill i ffynnu, gan wneud y byd yn lle gwell i bob bod. Hyrwyddir yr athroniaeth hon trwy grefydd a myth a chaiff ei hintegreiddio i’r economi. Mae’n seiliedig ar agwedd o ddigonedd, lle rydym yn cymryd dim ond yr hyn sydd ei angen arnom. Does dim lle i’r trachwant a’r gor-ecsbloetio a ddaw o agwedd o brinder. Mae cynaliadwyedd wedi’i blethu i’r holl weithgarwch economaidd, gydag arferion fel peidio â chymryd mwy na hanner yr aeron a geir mewn unrhyw lain sy’n tyfu yn y gwyllt, a phlannu coed cnau o amgylch y dirwedd.

Mae cynnwys bodau dynol yn ein hecosystemau yn rhoi sail resymegol i ni fod yn yrwyr parhaus ar gyfer newid cadarnhaol ar y tir. Er enghraifft, rydym yn gwneud hyn yng Nghoetir Anian trwy blannu coed i adfer gorchudd coed i’r dirwedd. Mae hefyd yn ein helpu i adennill ein synnwyr o gysylltiad â gweddill byd natur, nad yw’n diystyru cynhyrchu bwyd o’r dirwedd, ac adfer ystyr i fywyd dynol trwy ymdeimlad o’n lle yn yr ecosystem.