RHOSTIR YR UCHELDIR

DISGRIFIAD

Dominyddir rhostir yr ucheldir gan rugoedd fel ling (Calluna vulgaris) a grug y mêl (Erica cinerea) a llwyni bychain eraill fel llus (Vaccinium myrtillus). Ceir rhostir sych ar briddoedd mwynol, tra bod rhostir gwlyb i’w gael ar fawn bas.

Ym Mwlch Corog y cynefin amlycaf ar draws y safle yw rhostir ucheldir gwlyb. Mae’n gysylltiedig â gorgors, gyda’r olaf yn digwydd ar dir mwy dwrlawn gyda mawn dyfnach. Ffurfir y mawndiroedd hyn mewn hinsoddau o lawiad uchel ac anweddweddariad isel. Deunydd planhigion marw yw mawn, mwsoglau a grugoedd yn bennaf. Mae’r amodau asidig dwrlawn yn atal dadelfennu.

Rhostir yr Ucheldir

Nid yw rhostiroedd yr ucheldir gwlyb yn naturiol yng Nghymru, gan eu bod yn arteffactau o effeithiau dynol yn y gorffennol ar y dirwedd. Wedi Oes yr Iâ, cytrefodd coedwig frodorol bedw, pinwydd a choed eraill y dirwedd, gan gynnwys ardaloedd yr ucheldir. Cliriwyd y goedwig ar gyfer amaethyddiaeth tua 4,500 o flynyddoedd yn ôl. Mewn ardaloedd o lawiad uchel, roedd glaw yn gollwng y maetholion o’r pridd nawr nad oedd gorchudd coed yn ei amddiffyn. Achosodd hyn i’r pridd ddod yn fwy asidig a dyddodwyd y mwynau trwythol mewn ‘padell galed’ ar ddyfnder is yn y pridd. Mewn rhai mannau, creodd y siarcol o’r coed llosg y badell galed. Mae’r badell galed yn atal draenio ac yn achosi i’r tir wlychu’n barhaol. Gan nad oedd yn bosibl tyfu ar y tir hwn bellach, cytrefwyd y priddoedd asidig, anffrwythlon gan rugoedd a mwsoglau, sy’n ffurfio’r mawn.

BWLCH COROG

Ym Mwlch Corog, draeniwyd yr ardal ucheldirol o tua 120 hectar (300 erw) yn ystod y 1930au trwy gloddio 11 cilometr o ffosydd draenio neu ‘afaelion’. Gosodwyd y rhain ar rannau mwy gwastad y gorgors yn ogystal ag ar lethrau’r rhostir. Y syniad oedd sychu’r pridd i wneud porfa gynhyrchiol. Nid oes gennym unrhyw gofnod o sut y datblygodd y llystyfiant ar ôl ei ddraenio ond erbyn 2017, pan brynwyd Bwlch Corog ar gyfer y prosiect, roedd twf ungnwd sefydledig o wellt y gweunydd (Molinia caerulea) yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ardal.

Mae un ardal sylweddol o rostir gwlyb ar y rhostir. Gyda’r ling, grug y mêl a llus, planhigion eraill sy’n tyfu ar y rhostir yw grug croes-ddail (Erica tetralix), cotwm cors (Eriophorum angustifolium), llugaeron (Vaccinium oxycoccos), llafn y bladur (Narthecium ossifragum), tresgl y moch (Potentilla erecta), briwydd wen (Galium saxatile), ddeulasnod (Carex binervis), mwsoglau, cennau a glaswellt amrywiol, brigwellt garw (Deschampsia flexuosa), clwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum) ac wrth gwrs gwellt y gweunydd hollbresennol (Molinia caerulea) sy’n dominyddu’r rhan fwyaf o’r safle.

Llus
Molinia
Grug

 

MOLINIA

Mae’r tueddiad i Molinia ddominyddu llystyfiant rhostir yn ffenomenon adnabyddus ym Mhrydain a chredir ei fod yn gysylltiedig â draenio, llosgi, cynnydd mewn pori defaid yn hytrach na gwartheg, a dyddodiad nitrogen o lygredd aer.  

Mae Molinia yn rhywogaeth laswellt frodorol ac yn rhan sylweddol o rai cynefinoedd arbennig, er enghraifft porfa Rhos, coetiroedd gwlyb penodol,choetiroedd corsiog.

Daw’r enw Saesneg ‘purple moor grass’ o liw tyfiant cynnar y gwanwyn – yn ystod yr haf mae’n lliw gwyrdd arferol glaswellt. Mae’n annymunol i lawer o anifeiliaid pori ac mae’n laswellt collddail, sy’n golygu bod y dail (llafnau) yn marw yn y gaeaf. Mae hyn yn creu lliw gwellt enigmatig rhostir y gaeaf. Y broblem gyda Molinia yw, trwy beidio â chael ei bori, mae’n trechu planhigion eraill, ac mae’r glaswellt marw yn ffurfio mat trwchus sy’n mygu’r ddaear, gan atal planhigion eraill rhag tyfu. Yn y pendraw, ungnwd yw, heb fawr o amrywiaeth na diddordeb bywyd gwyllt, a dyna’n union sydd gennym ym Mwlch Corog. Mae ganddo strwythur nodweddiadol o dwmpathau mawr heb lawer o le rhwng twmpathau, a all wneud cerdded y rhostir yn amhleserus.

DRAENIAD

Ceir problemau eraill sy’n gysylltiedig â draenio’r corsydd. Mae cors mewn cyflwr da yn dal cyfaint enfawr o ddŵr ac yn ei ryddhau’n araf i nentydd yr ucheldir. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr ardaloedd lle mae corsydd yn digwydd, lle gall glawiad fod yn drwm ac yn hir. Os yw’r gors yn cael ei draenio, mae dŵr glaw yn cael ei dynnu oddi ar y bryn bron yn syth trwy’r gafaelion ac i’r nentydd a’r afonydd. Felly mae llifogydd yn digywdd yn amlach ac maent yn fwy difrifol i lawr yr afon ac mae’r rhain yn aml yn effeithio ar ardaloedd poblog. Hyd yn oed heb lifogydd, mae’r llif dŵr gormodol yn cyrraedd y cefnfor heb ddarparu buddion i fywyd gwyllt na chymdeithas ddynol. I’r gwrthwyneb, mewn cyfnodau sych, heb i ddŵr gael ei storio yn yr ucheldiroedd, mae’r nentydd a’r afonydd yn sychu’n haws, gan achosi prinder dŵr i fywyd gwyllt a bodau dynol.

Gall draenio hefyd yn achosi erydiad pridd oherwydd dŵr sy’n llifo’n gyflym yn y gafaelion. Mae hyn yn halogi purdeb dŵr a all effeithio’n ddifrifol ar fywyd gwyllt, er enghraifft wyau pysgod, a gall achosi problemau i gyflenwadau dŵr dynol.

Mae mawn, fel llystyfiant marw, yn storio carbon. Mae’n dibynnu ar fod â dŵr yn barhaol ac anaerobig i gynnal y cyflwr sefydlog hwn. Gyda draeniad, mae’r mawn yn sychu ac mae’r carbon yn agored i’r aer, gan ganiatáu iddo ocsidio. Fel carbon deuocsid, mae’n dianc i’r atmosffer fel nwy tŷ gwydr.

Er gwaethaf eu gwreiddiau artiffisial o ganlyniad i ddatgoedwigo, mae gorgorsydd bellach yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu cynhalieath o fywyd gwyllt a buddion eraill.

ADFER

Cyflawnir adfer cors ym Mwlch Corog trwy wrthdroi’r draeniad i adfer hydroleg naturiol y mawndir. Cafodd y gafaelion draenio eu blocio yn ystod 2019 gan ddefnyddio cyfres o argaeau mawn wedi’u gosod bob 10 metr ar hyd y gafaelion. Mae’r mawn ar gyfer yr argaeau yn cael ei gymryd o amgylch y gafael, fel bod pant yn cael ei gloddio uwchben yr argae: wrth i’r llif gael ei atal mae pwll yn ffurfio. Bellach mae gennym dros fil o byllau bach ar draws y safle, sy’n creu cynefin newydd i fywyd gwyllt. Dros amser, bydd planhigion yn cytrefu’r dŵr llonydd a bydd y deunydd planhigion marw yn llenwi’r pyllau a’r ffosydd.

Yn y cyfamser, mae’r hydroleg naturiol yn cael ei adfer i’r mawndir ar unwaith. Mae’r ddaear yn amlwg yn wlypach neu hyd yn oed yn ddwrlawn bob ochr i’r gafaelion. Yr effaith ar lystyfiant fydd lladd Molinia a fydd yn cael ei ddisodli’n raddol gan fwsoglau migwyn. Effaith fwy uniongyrchol yw cytrefu planhigion rhostir yn y mawn agored ar ymylon y pwll.

Ceffylau'n pori Molinia
Gwartheg ar y rhostir

Y newid mawr arall yw’r pori. Ni chafodd y safle ei bori am oddeutu 7 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwn bu rhywfaint o adferiad o’r llwyni bychain yn absenoldeb defaid. Fodd bynnag, mae’r Molinia yn cyflwyno her sylweddol i lystyfiant arall. Yn 2018 fe wnaethon ni gyflwyno gyr o geffylau gwyllt i Fwlch Corog. Mae’r brîd Konik yn wydn iawn ac yn goroesi ar bori garw a bydd hyd yn oed yn bwyta Molinia, er bod yn well ganddyn nhw bron unrhyw lystyfiant arall y gallant ddod o hyd iddo. Yn yr haf, mae gyr o wartheg yr ucheldir yn ymuno â’r ceffylau, sydd hefyd yn pori ar Molinia. Mae’r pori ynghyd â sathru’r llysysyddion mawr hyn yn lleihau maint y twmpathau Molinia ac yn gwneud lle rhwng y twmpathau, gan ddatgelu’r pridd hefyd. Galluoga hyn blanhigion eraill i gytrefu a chreu amrywiaeth ar y rhostir. Oherwydd maint y safle a goruchafiaeth Molinia mae’n broses araf, ond mae archwiliad manwl yn datgelu rhywfaint o amrywiaeth yn y mwyafrif o leoedd.

Molinia wedi'i bori gyda Potentilla a Galium
Pori'n amrywiaethu molinia

Yn ogystal ag un ardal sylweddol o rostir gwlyb, mae rhai grugoedd, llus a mwsoglau wedi goroesi mewn mannau bychain sydd wedi’u cuddio ymhlith y Molinia. Mae rhai prosiectau adfer rhostir wedi defnyddio crebachu a hau hadau grug i gyflymu’r broses adfer. Gallai hyn fod yn bosibilrwydd yng Nghoetir Anian; rydym hefyd yn barod i gymryd ein hamser a lleihau ymyrraeth bellach. Ar ôl cael gwared ar ddraeniad annaturiol y safle, bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r llystyfiant yn datblygu.

Rhostir gwlyb a golygfa o'r mor

Rhostir gwlyb ar eiddo cyfagos, wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae ceffylau fferal wedi pori yno ers tua 25 mlynedd ac mae’n enghraifft dda o gyflwr a graddfa’r cynefin y gallwn ddisgwyl ei weld ym Mwlch Corog.

Rhostir sych ag eithin

Rhostir ar dir ger Bwlch Corog. Nid yw’r ardal hon wedi cael ei phori ers tua 30 mlynedd. Mae wedi datblygu i fod yn gynefin amrywiol a diddorol iawn gyda choed eithin a choed ifanc yn tyfu ynghyd â’r grug a phlanhigion rhostir eraill. Mae’n denu bywyd gwyllt toreithiog gan gynnwys y troellwr mawr.