COETIR

DISGRIFIAD

Fforest law Geltaidd yw’r enw a roddir ar y goedwig law dymherus a geir yn rhannau gorllewinol Ynysoedd Prydain. Enwau eraill ar gyfer y math hwn o goetir yw ‘ coetir derw yr ucheldir’ a ‘choetir derw yr Iwerydd’. Yn flaenorol, roedd y goedwig frodorol yn dominyddu’r dirwedd ond erbyn hyn dim ond mewn darnau bach nad ydynt yn fwy na 2% o arwynebedd y tir y mae wedi goroesi.

Ym Mwlch Corog mae coetir hynafol Coed Llechwedd Einion tua 4 hectar (10 erw) o arwynebedd. Yn ogystal, mae ardaloedd wedi’u plannu â llarwydd a derw i wneud cyfanswm arwynebedd coetir o tua 10 hectar (25 erw).

Mae glawiad uchel a hinsawdd fwyn y parth daearyddol yn cyfrannu at nodweddion arbennig y Goedwig Law Geltaidd. Hefyd, mae’r gweddillion yn aml i’w darganfod ar dir serth uwchben afonydd, ac mae hyn yn wir ym Mwlch Corog lle mae’r rhan fwyaf o’r coetir ar hyd ochrau serth dyffryn yr afon. Mae’r cynefin yn gyfoethog mewn rhedyn, mwsoglau, llysiau’r afu a chen, gyda llawer ohonynt yn rhywogaethau prin. Mae’r rhain yn bresennol fel fflora’r ddaear yn ogystal â gorchuddio boncyffion a changhennau coed. Gyda mwy na 500 o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn gysylltiedig â’r cynefin hwn, mae’r coetiroedd hynafol hyn yn hynod bwysig ar gyfer bioamrywiaeth.

Golwg o'r awyr gyda'r ffin
Mwsogl a rhedyn ar goeden
Rhaeadr Llechwedd Einion
Coetir gyda llus

 

Y rhywogaethau coed a geir yn ein coetiroedd ac sy’n cytrefu’r tir agored ym Mwlch Corog yw:
derw (Quercus petraea)
bedw (Betula spp.)
criafol (Sorbus aucuparia)
celyn (Ilex aquifolia)
cyll (Corylus avellana)
onnen (Fraxinus excelsior)
helyg (Salix caprea)
aethnen (Populus tremula)
afalau surion (Malus sylvestris)
draenen wen (Crataegus monogyna)
draenen ddu (Prunus spinosa)
gwernen (Alnus glutinosa)

Ymhellach i lawr y dyffryn mae dwy rywogaeth yr ydym yn gwybod yr arferai dyfu ym Mwlch Corog oherwydd cofnodion paill:
palalwyfen (Tilia cordata)
llwyfen lydanddail (Ulmus glabra)

Ac mae’r cofnodion paill hefyd yn cofnodi presenoldeb hanesyddol
pinwydd (Pinus sylvestris)
ffawydd (Fagus sylvatica)

Coetir oedd y prif gynefin ar draws holl olygon Bwlch Corog yn yr ychydig filoedd o flynyddoedd cyntaf ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Mae hyd yn oed y pwynt uchaf sydd 388 metr uwch lefel y môr yn is na llinell y coed naturiol yng Nghymru.

Mae dadansoddiad paill o greiddiau pridd a gymerwyd o fawn dwfn ym Mwlch Corog yn darparu cofnodion sy’n mynd yn ôl 5,300 o flynyddoedd cyn yr oes sydd ohoni. Datgelir trwyddo hanes hynod ddiddorol a chymhleth o newid llystyfiant sy’n gysylltiedig â chylchoedd hinsawdd a dylanwad dynol. Yn gyffredinol, cynyddodd coetir yn ystod cyfnodau cynhesach a gostwng yn ystod cyfnodau oerach a gwlypach. Yn ogystal, roedd gorchudd coetir yn gysylltiedig â bodau dynol yn clirio tir i’w bori, a ddigwyddodd fwy nag unwaith.

Roedd cyfansoddiad rhywogaethau coed a phlanhigion eraill hefyd yn amrywio’n sylweddol yn ôl yr hinsawdd a defnydd tir. Roedd gwern yn fwy cyffredin tan tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl a chynyddodd derw dros y 2,000 o flynyddoedd diwethaf, tra bod bedw wedi parhau i fod yn drech ar y cyfan.

Coetir a chlychau'r gog
Tir agored a chlychau'r gog

Yn hwyr yn y gwanwyn, mae gan Fwlch Corog dorraeth hyfryd o glychau’r gog – o fewn y coetir hynafol yn ogystal ag ar draws darnau helaeth o dir agored. Mae’r fflora coetir hwn yn dangos lle mae’n rhaid bod gorchudd coetir wedi bod tan yn gymharol ddiweddar.

Mae’r rhywogaethau bedw a geir ar y safle yn adlewyrchu’r amrywiaeth leol gyda bedw gyffredin (Betula pubescens), bedw arian (Betula pendula) a’r fedwen wen Iberiaidd (Betula celtiberica) na wyddys fawr amdani. Credwyd bod yr olaf yn endemig i benrhyn Iberia tan y blynyddoedd diwethaf pan ddechreuodd yr ecolegydd enwog o Geredigion Arthur Chater ddod o hyd i enghreifftiau ohono mewn coetiroedd hynafol ar gyrion gorllewinol Cymru. Ymwelodd Arthur Chater â Bwlch Corog yn 2017 a nododd sawl coeden unigol o’r rhywogaeth hon yn ein coetir hynafol.

Bedwen unig

ADFERIAD

Un o’r blaenoriaethau ar gyfer Bwlch Corog yw cynyddu gorchudd coed i adfer ardal fawr o Goedwig Law Geltaidd ynghyd â grwpiau mwy ynysig a choed sengl o fewn yr ardaloedd o dir agored.

Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy gyfuniad o blannu coed ac adfywio naturiol, ac rydym yn defnyddio ystod o dechnegau i sefydlu coed ym mhresenoldeb llysysyddion mawr. Mae cwpl o ardaloedd bach sy’n anhygyrch i’r llysysyddion wedi’u plannu ar ddwysedd gweddol uchel. Ac mae rhai ardaloedd wedi cael eu cytrefu gan adfywio naturiol ar ddwysedd uchel, bedw yn bennaf. Rydym yn cynorthwyo gyda’r broses hon gyda’r defnydd o ffensys dros dro. Mae aildyfiant naturiol coed criafol sengl yn digwydd ar ddwysedd isel iawn ar draws ardal eang o’r rhostir.

Bedw
Coed criafol ar weundir

Plannu coed ‘dim ffensys’ yw prif ffocws ein hymyrraeth i gynyddu gorchudd coed: mae grwpiau bach neu goed sengl yn cael eu plannu mewn lleoliadau penodol sy’n anhygyrch i’w pori. Plannir y coed ar dir serth neu o fewn gorchudd llystyfiant presennol fel na all yr anifeiliaid weld na chyrraedd y coed. Technegau yw’r rhain a ddatblygwyd gan Steve Watson yng Ngogledd Cymru, yn seiliedig ar arsylwi agos ar sut mae coed yn ymsefydlu’n naturiol ym mhresenoldeb llysysyddion. Rydym yn datblygu’r technegau hyn yng nghyd-destun ein safle ein hunain, sydd heb lawer o ardaloedd serth ac ychydig iawn o orchudd llystyfiant naturiol. Trwy arsylwi ar ardaloedd pori arferol y ceffylau gwyllt rydym wedi nodi rhai ardaloedd heb gynrychiolaeth sy’n addas ar gyfer plannu coed. Rydym yn plannu grwpiau bach o goed drain i greu gorchudd ar gyfer plannu rhywogaethau coed eraill yn ddiweddarach ymysg y drain. Mae’r rhan fwyaf o’r coed rydyn ni’n eu plannu yn cael eu tyfu o hadau a gasglwyd ym Mwlch Corog.

Plannu 'dim ffensys' - pinwydd

Am ragor o wybodaeth am goetiroedd a choedwigaeth yng Nghymru gweler yr erthygl Forestry in Wales gan Richard Doran-Sherlock.

Am fanylion pellach am ein coetiroedd gweler Ancient Woodland Report on Bwlch Corog gan Adam Thorogood.