Ochr yn ochr â’n prif amcan ar gyfer y coetir o adael i natur ddilyn ei thrywydd ei hun, mae gennym amcan i gynyddu gorchudd coed, yng nghyd-destun datgoedwigo hanesyddol y safle. Mae pellter y rhan fwyaf o’r safle oddi wrth goed brodorol presennol a gorchudd daear o haenau matiog o wellt y gweunydd (Molinia caerulea), yn golygu nad yw’n bosib dibynnu’n llwyr ar adfywio naturiol. Hyd yn oed yn yr ardaloedd isaf, ger coetir brodorol, nid oedd adfywiad naturiol yn datblygu mewn ardaloedd o redyn nad oedd wedi ei bori ers dros 25 mlynedd, oherwydd dwysedd ac uchder y rhedyn.

A oes gan blannu coed le yn ein dull o’r ymyrraeth lleiaf posibl? Ar y safle hwn, mae penderfyniad i beidio â phlannu coed yn benderfyniad i gadw’r safle heb goed, a gellir ystyried hynny yn ymyrraeth. Datgoedwigodd pobl yr ardal, ac mae gan bobl y gallu i adfer gorchudd coed. Bydd bywyd gwyllt yn elwa o ardal fawr o borfa goediog yn yr ucheldir wedi’i chymysgu â chynefinoedd eraill. Dyma’r ystyriaethau sy’n llywio ein rhaglen barhaus o blannu ychydig gannoedd o goed bob blwyddyn ar draws y safle.

Mae llysysyddion mawr sy’n pori’r dirwedd yn darparu llawer o fuddion, megis adfer rhostir a glaswelltir, datgelu pridd i greu amrywiaeth planhigion ac er budd rhywogaethau anifeiliaid, a darparu diddordeb bywyd gwyllt yn eu rhinwedd eu hunain. Er mwyn parhau â buddion pori gyda cheffylau a gwartheg, rydym yn defnyddio technegau plannu coed  ‘Dim Ffensys’, yn seiliedig ar y rhai a arloeswyd gan Steve Watson yng Ngogledd Cymru. Yn gryno, y dulliau yw: defnyddio tir serth i blannu’r goeden allan o gyrraedd pori (coed saber); a phlannu mewn gorchudd llystyfiant amddiffynnol fel eithin. Mae Bwlch Corog yn safle anodd ar gyfer y dulliau hyn, gan nad oes llawer o dir serth, ac nid oes llawer o orchudd amddiffynnol. Rydym wedi plannu rhai coed uwchben ardaloedd serth addas ond bellach rydym wedi rhedeg allan o’r lleoliadau hyn. Yn absenoldeb eithin, rydym wedi defnyddio mieri, llwyni draenen wen a choed wedi cwympo fel gorchudd, ond unwaith eto mae’r rhain yn brin.

Derwen wedi’i phlannu mewn draenen wen

Felly rydyn ni nawr yn arbrofi â dulliau eraill, gan ddefnyddio athroniaeth Steve o ddynwared yr hyn sy’n digwydd ym myd natur, ynghyd ag arsylwi’n agos ar sut mae’r llysysyddion mawr yn ymddwyn. Mae gan y ceffylau eu hoff fannau gyda’r glaswellt gorau, ac maen nhw’n gadael llawer o rannau o’r safle heb eu pori. Mae’r gwartheg yn pori ar draws y rhan fwyaf o’r safle, ond dim ond yn ystod misoedd yr haf y maent yn bresennol pan fydd digon o laswellt. Yn ystod y gaeaf mae’r bygythiad mwyaf i’r coed trwy bori pan mae prinder bwyd arall. Yn ogystal, mae’r llystyfiant talach yn cuddio’r coed yn well yn ystod yr haf. Wrth arsylwi ar yr ardaloedd heb ymyrraeth y ceffylau, fe wnaethom blannu ardal yng ngwanwyn 2020 a dwy ardal arall yn hydref 2020, a hyd yn hyn mae’r rhain wedi goroesi heb eu pori. Y gwanwyn hwn, rydym yn plannu mewn rhai rhannau anghysbell o’r safle sy’n gofyn am daith gerdded hir ar draws y rhostir. Mae’r ardaloedd hyn yn adeiladu ar rai ardaloedd bach o goed brodorol presennol yr ochr arall i’n ffens derfyn.

Rhedyn, dim coed yn bresennol – 2018

Rhedyn, ychydig o goed yn bresennol – 2021

Y gwaith arbrofol arall yr ydym yn rhoi cynnig arno yw plannu coed drain i greu gorchudd ar gyfer plannu yn y dyfodol. Unwaith y bydd coeden ddraenen yn ddigon mawr, mae’n bosib plannu rhywogaeth arall o goed ymhlith ei changhennau isaf. Rydym hefyd yn plannu’r drain mewn grwpiau i greu dryslwyn bach i blannu ynddo ynghynt. Dynwareda’r strategaeth hon y broses a nodwyd gan Franz Vera yn ei waith arloesol ‘Grazing Ecology and Forest History’. 
Mae Knepp yn darparu crynodeb byr o syniadau Vera a’u hysbrydoliaeth ar gyfer tir gwyllt Knepp. Ac yn benodol ar rôl drain, gweler y fideo fer hon gyda Franz Vera ar Kneppflix. 

Bedwen wedi’i phlannu mewn draenen wen

Rydym wedi bod yn plannu draenen wen (Crataegus monogyna) y gwanwyn hwn, ac yn yr hydref byddwn yn plannu draenen ddu (Prunus spinosa) a mwy o ddraenen wen. Ar wahân i’w rôl gwerthfawr fel gorchudd, mae’r llwyni hyn yn darparu llawer o fuddion i ystod o rywogaethau bywyd gwyllt, gyda’u blodau gwanwyn a’u ffrwythau gaeaf. Gallwch ddarllen am bwysigrwydd y llwyni hyn ar gyfer bywyd adar yn y llyfr hynod ddiddorol ‘Rebirding’ gan Benedict MacDonald. Mae’r llyfr hefyd yn nodi syniadau Franz Vera ar rôl bwysig a naturiol llysysyddion.

Mae gan blannu coed mewn tirwedd bori botensial enfawr i adfer natur ar draws y dirwedd. Fel y mae gwaith Steve Watson yn ei ddangos, mae gorchudd y coed yn lleihau eithin a rhedyn, gan ganiatáu i laswellt dyfu rhwng y coed, ac felly mae’n cynyddu maint y borfa ar gyfer da byw. Darpara’r amgylchedd mwy cysgodol gwell amodau lles i’r anifeiliaid ac yn cynyddu eu twf a’u gwytnwch. Mae’r ddadl gyfredol am goed neu ddefaid yn yr ucheldiroedd yn diystyru syniad hanfodol: gallwn gael y coed a’r anifeiliaid pori gyda’i gilydd yn y dirwedd gyda buddion gwirioneddol i ffermio ac i fywyd gwyllt.