Ym mis Ebrill 2018, bron i flwyddyn ar ôl i ni gaffael Bwlch Corog, croesawyd tri cheffyl Konik hardd i’r coetir. Ymunodd dwy gaseg arall a march â’r cesig hyn ddeufis yn ddiweddarach.

Prosiect i adfer cynefinoedd a rhywogaethau yw Coetir Anian: cyflawnir y ddwy ystyriaeth hyn trwy adfer llysysyddion mawr i’r dirwedd, gan eu bod yn chwarae rhan mor bwysig yn y dirwedd, gan yrru datblygiad cynefinoedd trwy bori a gweithgareddau eraill. Mae pori a brigbori yn cynhyrchu brithwaith o borfa goediog, glaswelltir, rhostir a chors, gyda mwy o amrywiaeth o blanhigion a mwy o flodau. Heb bori, mae’r dirwedd yn cael ei dominyddu gan haenau matiog o laswellt marw sy’n atal planhigion eraill rhag tyfu. Dangoswyd hyn yn glir yn y saith mlynedd heb bori ym Mwlch Corog.

Rydym am gyflwyno anifeiliaid gwyllt lle bo hynny’n bosibl, ond gyda’r ceffyl cyntefig neu tarpan ac aurochiaid wedi diflannu yn eu ffurf wyllt, mae’n rhaid i ni edrych ar eu perthnasau domestig. Mae ceffylau domestig (Equus ferus caballus) yn ddisgynydd o’r tarpan (Equus ferus ferus), y ceffyl gwyllt cyntefig a boblogodd Ewrop, Asia a Gogledd America. Felly mae’r bridiau domestig yr un rhywogaeth ond yn is-rywogaeth wahanol i’r tarpan. Mae’r ceffyl Przewalski (Equus przewalskii) yn rhywogaeth wahanol sy’n frodorol i’r paith Asiaidd.

Ceir cryn dipyn o amrywiad rhwng gwahanol fridiau domestig, a phrif ffactor y prosiect yw dewis y brîd gyda’r nodweddion sy’n cyfateb agosaf i’r ceffyl gwyllt. Mae’r Konik yn cyflawni’r rôl hon, gan ddangos lliwiad ‘blue dun’, streipen dorsal ddu, cefnau coesau streipiog, a nodweddion strwythurol sy’n nodweddiadol o’r tarpan.

 

Ynghyd â’r nodweddion hyn, mae’r Konik yn hynod o wydn a gall ffynnu ar lystyfiant caled, gan eu gwneud yn addas iawn i fyw fel gyr wyllt ac maent yn cyd-fynd yn dda â’r amodau. Mae’n pori gwellt y gweunydd (Molinia caerulea), sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r safle. Mae’r Konik yn effeithlon iawn wrth storio cronfeydd braster mewn cyfnodau o ddigonedd o fwyd i’w galluogi i ffynnu trwy’r gaeaf, nid oes angen tocio’u carnau, ac maent yn adnabyddus am eu iechyd cadarn a’u hirhoedledd.

Buom yn ystyried Exmoor o ddifrif, nid yw eu tarddiad yn hysbys ond gallai fod yn ddisgynnydd uniongyrchol o darpan a esblygwyd ym Mhrydain. Fodd bynnag, mae nifer o gymhlethdodau a chostau yn gysylltiedig â chaffael a chadw Exmoors. Gwnaethom hefyd ystyried ceffylau Mynyddig Cymreig, yn enwedig y Carneddau: mae’r brîd hwn yn gymysgedd o fridiau dof iawn, felly yn llai addas ar sail agosrwydd at y ceffyl gwyllt gwreiddiol, er bod ganddo gysylltiad sefydledig ag ucheldiroedd Cymru.

Ceffylau yn y niwl

Cynigiwyd y ceffylau i ni yn rhad ac am ddim, gan gyrrau yng Ngheredigion a Sussex. Yr enw ‘Konik’ yw’r gair Pwyleg am ‘geffyl bach’. Cafodd y brîd ei greu cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ffermwyr o amgylch Coedwig Białowieża yng Ngwlad Pwyl trwy ddal a dofi tarpan o’r goedwig, yn ôl pob tebyg bu croes-fridio gyda brîd domestig lleol. Dynodwyd Konik yn frid yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif ac mae wedi cael ei werthfawrogi ers hynny ar sail ei agosrwydd at y ceffyl cyntefig.

O ran lles, nid yw ein ceffylau yn cael eu hesgeuluso mewn unrhyw ffordd er gwaethaf eu ffordd o fyw fferal. Mae gennym drefn hwsmonaeth ddiwyd gyda monitro rheolaidd i sicrhau bod y ceffylau mewn cyflwr da ac yn dangos ymddygiad iach. Rydym wedi ein cofrestru gyda gwasanaeth milfeddygol sydd ar gael ar gyfer gwiriadau iechyd ac argyfyngau. Rydym yn cymryd ein hymrwymiadau i’w lles o ddifrif.

Mae’r gyr wedi cynhyrchu pum ebol hyd yn hyn. Twf cymedrol yn y boblogaeth yw hwn, felly nid ydynt yn debygol o ragori ar gapasiti’r safle am nifer o flynyddoedd. Maent yn frid addfwyn, digynnwrf ac yn olygfa groesawgar i ymwelwyr y coetir.

Un o’n prif amcanion yw cynyddu gorchudd coed. Er eu bod yn pori coed ifanc, mae’r ceffylau hefyd yn creu amodau ar gyfer aildyfiant coed trwy darfu ar lystyfiant a dinoethi’r pridd. Heb ffensys mewnol i bob pwrpas, mae ganddynt fynediad di-dor i 350 erw ym Mwlch Corog, felly mae’n ddiddorol arsylwi ar y cydadwaith rhwng gorchudd coed a phori. Yn benodol, mae ein strategaeth plannu coed yn ystyried presenoldeb llysysyddion. Gweler yr erthygl ‘Plannu coed – dull dim ffensys.’

Am fwy o fanylion am nodweddion a hanes y Ceffyl Konik Pwylaidd gweler y papur – Polish Konik Horse – Characteristics and Historical Background of Native Descendents of Tarpan