Bedwen

Bedwen

Birch. Beith. Betula.

Fel rhywogaeth arloesol, bedw oedd un o’r coed cyntaf i boblogi’r tir ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Gwelir hi mor bell i’r gogledd â chylch yr Arctig ac mae’n goddef priddoedd asidig, agored. Mae coedwig bedw yn gartref i ji-bincod, corhedyddion y coed, telorion yr helyg, robiniaid, cyffylogod, eosiaid, llinosiaid pengoch a hefyd cnocell y coed sy’n manteisio ar rinweddau acwstig rhagorol bedw er mwyn drymio am gymar neu hysbysebu hawliau tiriogaethol. Ffynna blodau gwyllt fel briallu, anemonïau coed, a chlychau’r gog yn ogystal ag amanita’r gwybed y neu cysgod a dim ond coeden dderw sy’n gartref i fwy o rywogaethau o bryfed na bedw.
Mae cyfrwy bedw, ffwng sy’n unigryw i’r goeden fedw, yn ffynhonnell fwyd i bryfed ac yn helpu i chwalu coed marw. Gellir defnyddio stribedi o’r ffwng i hogi cyllyll yn ogystal â gwneud plasteri perffaith oherwydd ei briodweddau gwrthseptig, gwrthfacterol a gwrthlidiol.
Mae nodd y goeden fedw yn ffynhonnell fwyd werthfawr a gellir hefyd ei eplesu i wneud gwin neu gwrw. Resin bedw neu dar oedd y ‘super glue’ cyntaf, roedd helwyr Mesolithig yn ei ddefnyddio i ludo saethau i’w siafftiau 80,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae bedw yn hanfodol wrth helpu i adfywio ein coetir ym Mwlch Corog, gan gytrefu tir agored lle mae’r llystyfiant yn brin. Yr hyn sydd mwyaf cyffrous yw presenoldeb rhywogaeth brin o fedw, Betula celtiberica, yn y coetir hynafol.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol