Grugiar Ddu
Black Grouse. Lyrurus tetrix
Mae grugieir du yn enwog am eu harddangosfeydd wrth ddenu cymar, o’r enw ‘leks.’ Bydd adar gwrywaidd yn ymgynnull ar doriad y wawr, yn cwrcwd yn isel ac yn cylchu’r ddaear, yn taenu eu cynffonau duon, yn pwffio eu hunain i fyny ac yn chwyddo’r tagellau coch llachar uwchben eu llygaid. Trwy gydol yr amser maen nhw’n gwneud synau uchel, byrlymus. Mae’r benywod, sydd wedi’u cuddio ymysg glaswellt tal, yn arsylwi, yn aros i ddewis cymar.
Yn anffodus, mae niferoedd y rugiar ddu wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau’r 1900au oherwydd colli cynefinoedd. Eu cynefin delfrydol yw’r parth trawsnewidol rhwng coetir a rhostir, cymysgedd o goetir trwchus, isdyfiant, prysgwydd a chorsydd – y gwahanol fannau yn cael eu defnyddio gyda throad y tymhorau. Mae coedwig drwchus yn darparu cysgod rhag tywydd gwael yn y gaeaf ac mae nodwyddau conwydd yn darparu maeth trwy gydol y flwyddyn. Mae eu deiet yn dymhorol ac yn cynnwys planhigion, aeron, hadau a phryfed. Mae glaswelltir agored yn darparu safle nythu a chwilota am fwyd, gyda’r benywod yn deor rhwng 6-11 o wyau o ddiwedd mis Ebrill i ddechrau mis Mehefin. Mae ardaloedd corsiog yn feysydd chwilota pwysig i gywion ifanc.
Bydd adfer Coetir Anian, brithwaith cyfoethog o gynefinoedd, yn galluogi’r rugiar ddu i ffynnu unwaith eto yng ngorllewin Cymru. Gall grugieir duon aeafau yn y coetir heddychlon, a bridio, nythu a bwydo ar y rhostir grug a gwlyptiroedd sydd wedi’u hailsefydlu yn y misoedd cynhesach.
Statws yng Nghoetir Anian: Absennol, er bod rhai adar wedi’u cofnodi ar dir cyfagos, gan roi gobaith am ail-sefydlu naturiol.