Mochyn Daear
Badger. Meles meles
Moch daear yw ysglyfaethwr tir mwyaf Prydain. Maent yn bwyta pryfaid genwair yn bennaf ond byddant hefyd yn cymryd mamaliaid bach, wyau adar, gwreiddiau a bylbiau. Gall moch daear fyw am 14 mlynedd, er bod chwech yn fwy arferol. Y cynefinoedd sy’n cael eu ffafrio ganddynt yw coetiroedd, lle mae cloddio eu setiau o dan wreiddiau coed yn helpu i sefydlogi’r pridd. Maent yn cadw eu setiau yn daclus, gyda thoiledau ar wahân gerllaw a byddant yn awyru’r rhedyn a gwellt sy’n wely iddynt wrth fynedfa’r setl cyn eu dychwelyd o dan y ddaear.
Mae moch daear yn anifeiliaid cymdeithasol, yn byw mewn grwpiau teulu mawr. Maent yn ymddangos o’u set yn y cyfnos i wastrodi a chwarae cyn mentro i’r nos i chwilota. Byddant moch daear yn esgor ar dorllwyth o hyd at bum cenau ddiwedd y gaeaf, gyda’r cenawon yn aros o dan y ddaear am ddau fis cyn dod i’r amlwg yn gynnar yn y gwanwyn.
Fel cludwyr TB buchol, mae moch daear wedi eu gwneud yn fychod dihangol fel lledaenwyr y clefyd i wartheg. Ledled y DU, mae difa wedi digwydd. Hona’r llywodraeth bod y data’n dangos bod y difa’n gweithio, er bod gwyddonwyr yn honni nad oes dadansoddiad ystadegol sy’n gwirio’r honiadau hyn. Mae grwpiau bywyd gwyllt a gwyddonwyr yn credu y byddai brechu moch daear yn fwy cost effeithiol na difa.
Mae eu hwynebau streipiog du a gwyn wedi ennill calonnau llawer o awduron a darlunwyr. Maent yn gymeriadau bythgofiadwy o weithiau fel ‘The Wind in the Willows’, ‘The Tales of Beatrix Potter’ a ‘Fantastic Mr Fox’.
Statws yng Nghoetir Anian: Presennol.