Eithinen Ffrengig
Western Gorse. Onn. Ulex gallii.
Yn hollbresennol mewn tirweddau ‘gwyllt’: bryniau garw, ardaloedd arfordirol, rhostir agored a gweunydd unig, mae eithin mân yn llwyn bytholwyrdd pigog yn nheulu’r pys. Wedi’i orchuddio â miloedd o flodau melyn, mae eithin wedi’i gysylltu’n symbolaidd â thân a’r haul. Mae ei dymor blodeuo hir yn darparu bwyd gwerthfawr i wenyn yn gynnar yn y gwanwyn pan fydd blodau’n brin, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd blodau eraill wedi dwyn ffrwyth. Mae dryslwyni trwchus o eithin yn darparu safleoedd nythu a bwydo gwerthfawr i adar gwyllt, maent yn arbennig o bwysig i freision melyn, llinosiaid a theloriaid. Yng Nghymru, mae hwyaid yr eithin prin yn nythu mewn tyllau cwningen o dan eithin, sy’n esbonio eu henw Cymraeg!
Roedd eithin yn gysylltiedig â gwrachod, felly llosgwyd eithin yng Nghymru er mwyn atal unrhyw un oedd yn ymarfer hud yn ei dryslwyni. Roedd yr arfer hwn yn newyddion da i’r eithin serch hynny, gan fod yr had yn gofyn am wres i fyrstio a lledaenu, mae wedi addasu i egino ar ôl iddo gael ei ddeifio. Gallwch chi glywed yr hadau’n popio ar ddiwrnod poeth o haf, weithiau’n teithio cyn belled â deg metr.
Fel un o’r coed sy’n gysegredig i Geltiaid a derwyddon, defnyddiwyd eithin i gynnau tanau seremonïol, yn enwedig yn ystod gŵyl dân Beltane ym mis Mai. Byddai gyrroedd o dda yn cael eu gyrru rhwng tanau er mwyn eu hamddiffyn, a chludwyd fflachlampau o eithin trwy dir fferm ac adeiladau i lanhau’r aer a dod â ffrwythlondeb i’r anifeiliaid.
Statws yng Nghoetir Anian: Presennol