Collen
Hazel. Coll. Corylus.
Mae’r gollen yn goeden fach debyg i lwyn gyda dail mawr, crwn, danheddog. Yn y gwanwyn, mae blodau gwrywaidd yn hongian mewn cynffonnau ŵyn bach, tra bod blodau benywaidd yn ymddangos fel blagur bach gyda thaselau coch. Ar ôl peillio gan y gwynt, mae’r goeden yn cynhyrchu cnau blasus yn yr hydref. Mae’r rhain yn ffefryn gyda phathewod, sydd hefyd yn mwynhau bwyta’r lindys sy’n gwledda ar ddail cyll yn y gwanwyn. Mae’r cnocell fraith fwyaf a delorion y cnau yn gwasgu’r cnau cyll i holltau er mwyn morthwylio eu cregyn.
Defnyddir coesau cyll wedi’u torri (neu ‘gwiail’) ar gyfer basgedi, gwiail pysgota, ffyn cerdded, gwiail dewinio, cylchoedd casgen, clwydi a chwryglau. Roedd gwialen gyll i fod i amddiffyn rhag ysbrydion drwg ac mewn rhai rhannau o Loegr, roedd cnau cyll yn cael eu cario fel swyn i warchod rhag cryd cymalau.
Ceir stori Gymraeg sy’n sôn am fugail ifanc a dorrodd gwialenffon cyll o hen goeden gnotiog yng Nghraig y Ddinas a cherdded gyda hi i Lundain. Yno, cyfarfu â dyn doeth, a ddywedodd wrtho am ddychwelyd i’r lle yr oedd wedi torri’r cyll ac y byddai’n dod o hyd i drysor mawr. Ar ôl dychwelyd, darganfu Arthur a’i 12 marchog mewn trwmgwsg, o dan swyn ddofn â rhoddwyd arnynt gan Myrddin. Yn y Mabinogion, mae Ceridwen yn esgor ar Taliesin ac yn ei osod mewn cwrwgl wedi’i wneud o gyll sy’n golchi i fyny yn ddiweddarach mewn cored eogiaid. Mae gan Taliesin gysylltiadau cryf ag ardal y Cambria.
Statws yng Nghoetir Anian: Presennol