Criafolen
Rowan. Sorbus
Yn wydn ac yn osgeiddig, mae criafol yn caru uchelfannau ac yn goddef priddoedd asidig. Fel bedw, mae criafol yn rhywogaeth arloesol sy’n darparu cysgod i goed eraill, a fydd, yn y pen draw, yn corrachi’r griafol sydd ddim ond yn cyrraedd uchder o 10-15m. Adnabyddir criafol hefyd fel ‘mountain ash’, er nad yw o deulu’r onnen ond y rhosyn, ynghyd â’r ddraenen wen, ceirios ac afal. Mae ei aeron coch toreithiog yn ffynhonnell fwyd amhrisiadwy i adar fel mwyalchen, brych y coed, tingoch, coch yr adain, bronfraith, sogiar a chynffon sidan. Y tu mewn i stumog yr aderyn mae’r hadau’n cael eu tynnu o’u gorchudd amddiffynnol sy’n galluogi egino wrth i’r aderyn ddosbarthu’r hadau yn anfwriadol. Ym mis Mai, mae blodau gwyn hufennog y griafolen yn wledd i wenyn, gloÿnnod byw a gwenyn meirch. Mae ceirw’n mwynhau cen, rhisgl a deiliach y griafol ac mae’r dail yn fwyd i lindys gwyfynod.
Pan fyddant wedi’u coginio, mae aeron criafol yn faethlon iawn i fodau dynol ac yn cael eu gwneud yn jelïau a jamiau, yn cael eu defnyddio mewn pasteiod, wedi’u cymysgu ag afal i wneud gwin ac yma yng Nghymru yn cael eu bragu i mewn i gwrw. Yn draddodiadol, defnyddiwyd criafol i wneud gwerthyd ac olwynion nyddu yn ogystal â ffyn cerdded a dolenni offer. Defnyddiwyd y rhisgl a’r aeron i wneud llifyn du ac roedd y rhisgl ar un adeg yn cael ei ddefnyddio yn y broses trin lledr.
Mae yna gred werin bod bwyta aeron criafol yn ychwanegu blwyddyn at fywyd person.
Statws yng Nghoetir Anian: Presennol