RHYWOGAETHAU
ANIFEILIAID
Afancod, baeddod gwyllt, eryrod, gweilch, llygod y dŵr a cheffylau gwyllt. Mae llawer o anifeiliaid gwych yn brin yn ein tirwedd, neu ar goll yn gyfan gwbl. Fe fyddai’n bosib, ac nid yn afresymol, ail gyflwyno rhai o’r anifeiliaid yma i’n hardaloedd gwyllt, ac fe fyddwn yn astudio ymarferoldeb hyn os nad ydynt yn dychwelyd yn naturiol.
Mae ailgyflwyno unrhyw un o’r cigysyddion mawr – yr arth, blaidd a lyncs – ymhell y tu hwnt i gwmpawd Coetir Anian, ac rydym o’r farn bod Mynyddoedd Cambria, sydd â chymaint o dir fferm, yn anaddas i raglen o’r fath. Cyn ailgyflwyno unrhyw rywogaeth arall, byddwn yn cynnal astudiaethau manwl i’r potensial, gan ystyried pob un yn unigol ac yn ôl ei deilyngdod ei hun.
Isod mae disgrifiadau o rai o’r anifeiliaid y gallech eu gweld ym Mwlch Corog a rhai rhywogaethau rydyn ni’n gobeithio eu gweld yno yn y dyfodol.
COED A PHLANHIGION
Tyfodd coetir anferth ym Mhrydain wedi’r oes iâ diwethaf. Roedd y coedwigoedd enfawr yma yn gartref i anifeiliaid sy’n ymddangos yn eithriadol o egsotig i ni nawr – eirth brown, bleiddiaid ac elc. Mae’r coedwigoedd yma erbyn hyn wedi mynd, ac mae beth sydd ar ôl dan fygythiad. Er hyn, y coedwigoedd sydd ar ôl yw’r lleoliadau sy’n gartref i’r rhan fwyaf o’n bywyd gwyllt.
Mae llawer o bobl yn breuddwydio am gerdded yn yr ardaloedd gwyrdd, gwyllt yma. Mae Coetir Anian am greu encil sy’n gwireddi’r freuddwyd hon. Mae yna lawer o rywogaethau coed rhyfeddol yn y coetir, darganfyddwch mwy amdanynt isod.