Species Name Here

Helygen

Willow. Salix

Mae 18 o wahanol rywogaethau o helyg sy’n frodorol i Brydain ac Iwerddon, yn fwyaf arbennig helygen frau, helygen ddeilgron, helygen bêr, helygen wen ac helygen wiail. Helygen ddeilgron yw un o’r coed cynharaf i ddeffro yn y Gwanwyn. Mae’r cynffonnau ŵyn bach gwrywaidd arianog yn datblygu i fod yn byramidau o frigerau pen melyn sy’n darparu ffynhonnell gynnar o baill ar gyfer gwenyn. Mae’r cynffonnau ŵyn bach benywaidd gwyrdd hirach yn datblygu ar goeden ar wahân. Ar ôl peillio gan y gwynt, mae hadau blewog bach yn datblygu. Mae ysgafnder hadau helyg yn eu galluogi i wasgaru ymhell ac agos, gan gytrefu tir newydd a’i wneud yn rhywogaeth arloesol. Mae helyg yn hoffi pridd llaith sy’n cael ei aflonyddu gan anifeiliaid, yno bydd yn poblogi’n gyflym i ffurfio prysgwydd amhrisiadwy ar gyfer bywyd gwyllt. Mae helyg yn gartref i fwy o infertebratau nag unrhyw rywogaeth arall o goeden, gyda 450 o wahanol rywogaethau o bryfed yn defnyddio helyg ar gyfer eu cylch bywyd. Yn aml, bydd y prif foncyff yn cwympo drosodd ac oddi yno mae coedwig o goesynnau newydd yn egino. Mae’r gallu adfywiol hwn yn golygu bod helyg yn goeden delfrydol ar gyfer prysgoedio.

Pren caled iawn yw helyg ac yn draddodiadol fe’i defnyddiwyd ar gyfer clocsiau, batiau criced, trawstiau a lloriau. Defnyddir brigau helyg ar gyfer gwneud basgedi a chlwydi. Mae rhisgl helyg yn cynnwys lefelau uchel o salisin sy’n trosi i asid salisylig ar ôl ei dreulio – lliniarydd poen pwerus a’r cyfansoddyn y mae aspirin yn deillio ohono. Yn ogystal, mae helyg yn effeithiol wrth drin twymyn, llid, chryd cymalau.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol