Bele

Bele

Pine Marten. Martes martes

Mae bele’r coed yn debyg o ran maint i’r gath ddomestig, gyda ffwr lliw siocled a gwddf melyn hufennog a ‘bib’ nodweddiadol. Maent yn hela, chwilota a sborioni, gan fwydo ar mamaliaid bach, adar, wyau adar, brogaod, pryfed, burgyn, cnau ac aeron, gan addasu eu dietau i’r hyn sydd ar gael yn rhwydd. Mae gwiwerod llwyd yn rhan o’u diet, felly gallai belaod fod yn ffurf o reolaeth naturiol fuddiol ar y rhywogaeth ymledol hon. Yn y gwanwyn, mae bele’r coed yn esgor ar rhwng 1-5 cit (ifanc), tra’n nythu uwchben y ddaear mewn pantiau coed. Mae’r citiau’n gwbl annibynnol ar ôl chwe mis ac yn y gwyllt mae eu hoes ar gyfartaledd yn 8-10 mlynedd. Yn greaduriaid ymosodol, swil ac annibynnol, mae bele’r coed yn byw bywydau unig ar y cyfan, gan ffynnu mewn coetir collddail a chonifferaidd. Mae eu crafangau lled-ôl-dynadwy (fel cathod) yn eu gwneud yn feistri ar eu hamgylchedd coedwigol.

Mewn llên gwerin, mae beleod yn symbolau o benderfyniad, medr a lwc.

Gyda bele’r coed bron â diflannu yng Nghymru ar ddechrau’r 21ain ganrif, mae’r  ‘The Vincent Wildlife Trust’ yn mwynhau llwyddiant gyda’i Phrosiect Adfer Bele’r Coed, wedi iddynt drawsleoli tri deg naw o felaod y coed o goedwigoedd yr Alban i Geredigion rhwng 2015 – 2017, gan fonitro a’u heffaith ar fflora a ffawna lleol.

Statws yng Nghoetir Anian: Absennol, er bod rhai unigolion wedi’u cofnodi gerllaw, felly gobeithiwn y byddant yn poblogi ein safle yn naturiol.