Species Name Here

Pathew

Hazel Dormouse. Muscardinus avellanarius

Y pathew cyll yw’r unig pathew sy’n frodorol i Brydain. Yn dechnegol, nid llygod yw pathewod, gan fod ganddynt gynffonnau hollol flewog yn wahanol i gynffon cennog llygoden. Mae pathewod yn perthyn i’r un is-urdd â afancod a gwiwerod. Mae ganddyn nhw ffwr brown euraidd, llygaid mawr du ac maen nhw’n amrywio mewn maint rhwng 6 – 9 cm. Mae pathewod yn addasu eu diet yn ôl y tymor. Yn y gwanwyn maent yn bwydo ar flodau, gan fwynhau paill draenen wen a neithdar gwyddfid. Yn yr haf, mae eu diet yn cynnwys pryfed. Yn yr hydref maent yn bwydo ar ffrwythau a chnau, gan ddyblu eu cronfeydd braster i sicrhau gaeafgwsg llwyddiannus. Cnau cyll yw eu hoff fwyd yn yr hydref, mae’r twll crwn yn y cregyn yn gliw i’w presenoldeb.
Pob haf bydd pathewod yn cael torllwyth o hyd at bump o rai ifanc, magir nhw mewn nythod wedi’u gwehyddu o weiriau, dail a rhisgl sydd wedi’u hadeiladu mewn coed neu wrychoedd. Yn yr hydref, bydd pathewod yn adeiladu nythod clyd ar y ddaear o dan sbwriel dail neu bentyrrau coed. Maent yn gaeafgysgu wedi’u cyrlio i fyny mewn peli, gyda’u cynffon yn cyrlio o amgylch eu pen.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn 2019 gan ‘People’s Trust for Endangered Species’ wedi datgelu bod poblogaeth Prydain o bathewod cyll wedi gostwng 51% ers y mileniwm. Mae hyn oherwydd colli a darnio eu cynefinoedd coetir a gwrychoedd naturiol, yn ogystal â newid yn yr hinsawdd sy’n tarfu ar eu gaeafgysgu.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol