Aurochs by phan tom

Gwartheg Gwyllt

Auroch. Bos primigenius   Gwartheg yr Ucheldir. Bos taurus taurus 

Bellach maent wedi diflannu oherwydd hela a cholli cynefinoedd, yr aurochiaid oedd hynafiaid gwartheg domestig, yn sefyll hyd at 6 troedfedd, roeddent yn nodedig am eu cyrn enfawr byddai’n corachu i wartheg heddiw. Ers talwm, roedd dosbarthiad yr aurochiaid yn eang, ac roeddynt yn crwydro dros lawer o Hemisffer y Gogledd. Yn 2014, tra’n cerdded ar draeth yng Ngywnedd, daeth dyn o hyd i ysgithr 20 modfedd tybiodd oedd yn perthyn i eliffant. Mewn gwirionedd, corn auroch 3000 o flynyddoedd oed oedd e. Cafodd aurochiaid eu dofi tua 9000 o flynyddoedd yn ôl a chymerodd detholiad dynol yr awenau oddi ar ddetholiad naturiol – heddiw mae dros fil o amrywiadau o wartheg yn ddisgynyddion ohonynt. Cred rhai gwyddonwyr bod y llysysyddion mawr hyn yn ‘rhywogaeth ymbarél’ bwysig, yn darparu cynefinoedd i rywogaethau eraill trwy gynnal brithwaith o dirweddau, cymysgedd o laswelltir agored a choedwig. Cotiau brown cochlyd oedd gan y tarw a’r fuwch pan yn lloi. Arhosodd cotiau buchod yn goch, tra bod cotiau teirw yn dyfnhau i frown du pan yn oedolion. Ar y gwrywod, roedd ‘streipen llysywen’ yn bresennol, streipen ddu, hirgul yn rhedeg ar hyd y asgwrn cefn. Roedd pwrs y gwartheg yn fach a phrin yn weladwy.
Bu farw’r aurochiaid olaf, rhywogaeth yr amcangyfrifir i fod tua 2 filiwn oed, o achosion naturiol yng Nghoedwig Jaktarow yng Ngwlad Pwyl ym 1627.

Statws yng Nghoetir Anian: Absennol (diflanedig). Rydym yn defnyddio Gwartheg yr Ucheldir i bori ein tir yn ystod misoedd yr haf.