Species Name Here

Ffawydden

Beech. Fagus sylvatica.

Mae coed ffawydd yn nodwedd bwysig ac amlwg o goetiroedd Cymru a chytrefodd yn hwyr ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Gyda digon o le gallant dyfu i uchder o ddeugain metr, gan greu coron drwchus, siâp cromen sy’n ymestyn 40-60 troedfedd o led. Mae gan y ffawyddden rhisgl llwyd, llyfn a gellir eu hadnabod yn y gaeaf wrth eu blagur nodweddiadol, siâp ‘torpedo’. Mae’r ffawydden yn fonoecaidd: mae blodau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu ar yr un goeden. Yn gynnar yn y gwanwyn mae cynffonnau ŵyn bach gwrywaidd yn hongian o’r canghennau, tra bod y blodau benywaidd yn tyfu wrth ymyl cwpan fach. Cânt eu peillio gan y gwynt, ac ar ôl hynny bydd y cwpanau hyn yn troi’n goediog ac erbyn yr hydref byddant yn amgáu un neu ddau o gnau ffawydd. Mae coetir ffawydd yn aml yn gartref i garpedi clychau’r gog yn gynnar yn y gwanwyn. Weithiau mae tegeirianau prin ar safleoedd ffawydd sialc yn ogystal â ‘box coralroot’ a berwr chwerw ac mae coed ffawydd sydd wedi eu brigdocio yn gartref i lawer o gen. Bwytir dail ffawydd gan nifer o lindysod a gwyfynod, ac mae’r cnofilod a’r adar yn bwyta’r hadau a’r cnau. Gall coed ffawydd fyw am gannoedd o flynyddoedd ac mae’r hirhoedledd hwn yn sicrhau y gall rhywogaethau sydd angen cynefinoedd coed marw ffynnu mewn coetir ffawydd, fel pryfed sy’n tyllu coed ac adar sy’n nythu mewn tyllau coed, fel cnocell y coed.

Mae gan ffawydd lawer o ddefnyddiau fel pren ac fe’i defnyddir ar gyfer dodrefn ac offer coginio. Mae’n llosgi’n dda, gyda fflam gref, ddigynnwrf, ac yn draddodiadol fe’i defnyddir i ysmygu penwaig. Yn y gorffennol fe’i defnyddiwyd at ddibenion meddyginiaethol pan gafodd dofednod o ddail ffawydd eu bragu i helpu chwyddo.

Mae’r doethineb hynafol sy’n gysylltiedig â choed ffawydd wedi’i wreiddio yn yr arfer o ddefnyddio tafelli tenau o ffawydd i ysgrifennu arnynt a gwneud llyfrau. Y gair Eingl-Sacsonaidd am ffawydd oedd ‘bok’, gair gwraidd y Saesneg modern ‘book’. Roedd Henwen, hwch wen fawr mytholeg Cymru, yn bwyta cnau ffawydd a thrwy wneud hynny roedd yn meddu ar y doethineb mawr sydd gan goed ffawydd.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol