Hen Dderwen ym Mwlch Corog

Derwen

Oak. Duir. Quercus.

Mae coed derw yn darparu cynefin i dros 500 rhywogaeth o infertebratau, adar ac anifeiliaid yn ogystal â chynnal mwsoglau, cen, rhedyn a gwinwydd. Rhain yw’r coed mwyaf a hiraf eu hoedl o’n coed brodorol, gallant gyrraedd hyd at 900 mlwydd oed – 300 mlynedd i aeddfedu, 300 mlynedd fel coeden aeddfed a 300 mlynedd i bydru. Dechreuant gynhyrchu mes yn 45 oed, gyda’r mes aeddfed yn bwydo moch / baeddod, ceirw, gwiwerod a sgrech y coed.
Mae gan goed derw lawer o gysylltiadau mytholegol. Dywedir bod Myrddin wedi creu hudoliaethau mewn llwyni o dderw gan ddefnyddio’r gangen uchaf yn ffon. Safai derw gwych o’r enw Derw Myrddin ger Caerfyrddin (Caerfyrddin = Cae Myrddin) a rhagwelwyd ‘pan fydd Derw Myrddin yn cwympo i lawr, yna bydd cwymp tref Caerfyrddin.’ Dywedir i fwrdd y Brenin Arthur gael ei lunio o dafell sengl o goeden derw anferth a cherfiwyd ei arch o goeden dderw. Roedd Robin Hood yn byw ymhlith coed derw coedwig Sherwood ac yn cynnal cyfarfodydd yng ngheubren coeden dderw arbennig o hen sy’n dal i sefyll hyd heddiw ac a elwir yn ‘Major Oak’. Mae’n cylchfesur 64 troedfedd a gall ddal 34 o blant y tu mewn.
Rydym yn ffodus bod gennym ardal o goetir hynafol hynod iach ym Mwlch Corog. Mae’r coed derw godidog, digoes hyn yn bennaf, rhai ohonynt yn goed hynafol, yn brin yn nhirwedd Cymru ac yn ychwanegu llawer at ecoleg a harddwch y safle.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol