Celyn

Celyn

Holly. Tinne. Ilex aquifolium.

Yn aml yn fach a thebyg i lwyni, gall celyn dyfu i 20m o daldra a byw hyd at 300 mlynedd. Mae celyn yn deuoecaidd, sy’n golygu bod yr organau gwrywaidd a benywaidd ar goed ar wahân. Mae blodau’r goeden wrywaidd yn bersawrus ond dim ond y coed benywaidd sy’n cynhyrchu aeron. Darpara’r aeron coch llachar fwyd gaeaf ar gyfer y fwyalchen, y sogiar, coch yr adain a bronfreithod. Mae brych y coed yn adnabyddus am ei warchodaeth gadarn o aeron celyn yn y gaeaf sy’n atal adar eraill rhag eu bwyta. Mae gwasarn dail celyn yn amddiffyniad da i ddraenogod sy’n gaeafgysgu, llyffantod a nadroedd defaid. Yn y misoedd cynhesach, mae adar yn nythu yn ei changhennau ac mae ei blodau gwyn bach yn darparu neithdar a phaill i wenyn a lindys glesyn yr eiddew.
Yn draddodiadol, defnyddiwyd pren celyn ar gyfer dolenni cyllyll, siliau drws, gwaith saer ac asiedydd, offerynnau mathemategol, ysgythru ac argaenu. Mae’r pren yn derbyn llifynnau yn rhwydd ac wedi’i ddefnyddio yn lle eboni. Mae ei raen yn ei gwneud yn addas ar gyfer troi gwrthrychau cain ac fe’i defnyddiwyd i wneud darnau gwyddbwyll, gan ddefnyddio llathrydd esgidiau i’w tywyllu. Mae celyn yn llosgi’n boeth a defnyddiwyd ei siarcol ar gyfer gwneud cleddyfau a phennau bwyell.
Roedd pobl yn arfer credu bod cario aeron neu ddeilen celyn yn y boced yn eich gwneud yn atyniadol. Ystyriwyd hi’n lwc dda i gadw cangen fach yn hongian y tu allan i’r tŷ i warchod rhag mellt.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol