Yng nghornel ogleddol ein safle plannwyd llarwydd Siapaneaidd mewn ardal oedd yn wreiddiol yn goetir hynafol. Fel rhan o’n gwaith adfer coetir, rydym yn raddol teneuo’r llarwydd er mwyn caniatáu i’r planhigion a’r coed o’r coetir hynafol gwreiddiol ailsefydlu a ffynnu. Mae teneuo’r ardal hon wedi rhoi cynhaeaf gwerthfawr iawn inni – ein cyflenwad ein hunain o bren ag adnoddau cynaliadwy. Gan ddefnyddio’r pren hwn, rydym wedi adeiladu toiled compost a sied storio gron ar ein tir. Mae hyn wedi lleihau ôl troed carbon y ddau adeilad yn ddramatig. Yn unol â’n hawydd i fod mor gynaliadwy â phosibl, rydym wedi dod o hyd i unrhyw ddeunyddiau eraill sydd eu hangen mor lleol â phosibl ac wedi defnyddio crefftwyr a chontractwyr o’n hardal leol.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y toiledau compost ddiwedd Ebrill 2019. Gwnaethom gontractio Mark Vrionides, cydlynydd prosiect adeiladu cymunedol, i gynllunio, dylunio a chydlynu’r adeilad gydag Esme Walker, adeiladwr a chadwraethwr traddodiadol. Prynwyd contractwyr lleol i mewn pan oedd angen a chawsom gymorth gan rai o’n gwirfoddolwyr lleol rheolaidd yn ogystal â grwpiau achlysurol o wirfoddolwyr o ymhellach i ffwrdd gan gynnwys grŵp o staff o Sw Caer am wythnos. Roedd hyn yn gyfle i rannu sgiliau ac i bobl ddysgu am sgiliau adeiladu cynaliadwy a gwaith saer. Adeiladwyd y toiled compost gyda ffrâm pren crwn, gydag ardaloedd casglu gwastraff ar lefel y ddaear a grisiau’n arwain at 2 siambr ar wahân ar y lefel uchod. Oherwydd bod ein safle cyfan oddi ar y grid, dim ond offer ‘wedi’u pweru gan bobl’ a ddefnyddiwyd ar wahân i ambell ddril batri. Treuliodd gwirfoddolwyr oriau lawer yn plicio’r rhisgl o bolion llarwydd Siapaneaidd gyda chyllyll tynnu cyn i’r polion gael eu mesur, eu marcio yn unigol a thorrwyd cymalau allan gyda chynion. Paratowyd pedwar ar ddeg o bolion mawr fel hyn ar gyfer y ffrâm bren. Dywedodd Mark Vrionides, “Gyda’r pren yn dod o goed mor agos, yr adeilad hwn sydd â’r ôl troed carbon lleiaf i mi weithio arno erioed.”

Tynnu’r rhisgl

 

O’r diwedd, cyrhaeddodd y diwrnod mawr – codi’r ffrâm. Roedd angen yr holl ddwylo posib i godi ac arwain y polion pren trwm yn ofalus i’w lle – tasg oedd yn gofyn am gyfathrebu da, gwaith tîm, cyhyrau, penderfyniad a mesurau diogelwch trylwyr.

Paratoi’r polion ar gyfer y ffrâm bren

Ar ôl codi’r ffrâm yn llwyddiannus, adeiladwyd y waliau pren (cladin llarwydd), y llawr, to ac ardaloedd storio gwastraff.
Y cyfan a oedd ar ôl nawr oedd creu to byw ac adeiladu’r 2 ‘orsedd.’ Roeddem am gael to byw i helpu’r adeilad i ymdoddi i’w amgylchedd. Yn gyntaf, rhoddwyd haen o leinin pwll i lawr, ac yna hen garped wedi’i achub o sgipiau. Cloddiwyd carreg o amgylch y safle a’i dynnu i fyny i’r to i’w daenu, gydag ychydig o bridd, dros haen y carped. Yn olaf, hauwyd hadau briweg ymhlith y garreg a’r pridd. Nawr mae coed yn cael eu plannu o amgylch y strwythur i helpu ymhellach i’w uno â’r dirwedd.
Ychydig dros flwyddyn ar ôl ei gwblhau, mae’r pren wedi mwyneiddio, ac mae’r to yn gwyrddu. Defnyddir y toiledau compost yn rheolaidd ac maen nhw hyd yn oed wedi darparu cysgod i rai o’n bywyd gwyllt lleol, gyda gwenoliaid yn nythu’n llwyddiannus yr haf diwethaf ar un o’r trawstiau a theulu o dylluanod gwynion yn dewis clwydo yno yn yr hydref. Mae’n ymddangos bod pawb yn hoffi’r olygfa.

Y toiledau compost wedi cwblhau

Dechreuodd y gwaith ar ein hail adeilad ym mis Awst 2019 ar ôl derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer sied storio. Unwaith eto, Mark Vrionides a arweiniodd yr adeiladu, gydag Esme Walker yn arwain ochr plastro’r prosiect. Roeddem yn ffodus unwaith eto gyda gwirfoddolwyr a chontractwyr lleol yn helpu gyda’r adeiladu. Dyluniodd Mark adeilad crwn 9m gyda ffrâm pren crwn a tho dwyochrog. Mae to ffrâm dwyochrog yn cynnig man agored y tu mewn heb fod angen cefnogaeth ganolog. Defnyddion ni gyfanswm o 74 o’n polion llarwydd Siapaneaidd wrth adeiladu’r ffrâm bren a’r to. Ar gyfer y waliau, penderfynon ni ar fyrnau gwellt ar gyfer yr inswleiddiad gorau posibl, wedi’i rendro mewn calch.

Ffrâm bren y sied crwn

Y waliau o fyrnau gwellt

Adeiladodd Louis Sutton, gwneuthurwr waliau cerrig lleol, wal lechi isel ar sylfeini’r perimedr allanol i gynnal y waliau byrnau gwellt ac atal lleithder rhag codi o’r ddaear, a fyddai fel arall yn achosi i’r gwellt bydru. Kit Jones, adeiladwr byrnau gwellt lleol, a arweiniodd y gwaith o adeiladu’r waliau byrnau gwellt. Defnyddion ni 90 o fyrnau o wellt haidd wrth adeiladu’r waliau. Mae adeiladu gyda byrnau gwellt yn ddull adeiladu cymharol gynaliadwy, sy’n defnyddio sgil-gynnyrch amaethyddol. Wrth i’r cnwd grawn dyfu, mae’n cymryd carbon deuocsid sy’n cael ei storio fel carbon yn y coesyn ar ôl i’r grawn gael ei dorri. Dim ond ychydig o egni a ddefnyddir er mwyn cynhyrchu byrnau gwellt, gyda’r broses byrnu a chludo yr unig egni ychwanegol sydd ei angen. Maent hefyd yn 100% bioddiraddadwy a gellir eu haredig yn ôl i’r ddaear yn hawdd os nad oes eu hangen mwyach.

Ar ôl i’r waliau gael eu hadeiladu, dechreuodd y gwaith ar y to. Wedi i’r polion ategol fynd i’w lle, gorchuddiwyd y prif do â phlanciau castan cyn i’r to dwyochrog llai gyda ffenestri to gael ei greu uwchben. Yn yr un modd â’r toiled compost, roeddem eisiau to byw i helpu ein sied gron i ymdoddi i’r dirwedd, felly cafodd bwcedi dirifedi o rwbel cerrig a gloddiwyd ger yr adeilad eu tynnu a’u taenu ar draws y to.

Edrych i fyny ar y to dwy ochrog

Gorchuddiwyd y waliau gwellt â tharpolinau dros y gaeaf, hyd nes rhoddwyd rendr calch, a allai gael ei niweidio gan rew’r gaeaf. Ym mis Ebrill 2020, gan ddefnyddio deunyddiau o Tŷ-Mawr Lime Ltd ym Aberhonddu, rhoddodd Esme galch gyda gorffeniad gwasgaredig ar y waliau allanol. Cafodd y waliau mewnol eu plastro â chlai, gan ddefnyddio deunyddiau o Womersley’s. Yna paentiwyd y waliau â phaent keim (paent mwynau naturiol, sy’n anadlu) yn yr hydref. Meddai Esme, “Roedd yn wych defnyddio deunyddiau naturiol, cynaliadwy, er enghraifft y clai y gellir ei ailddefnyddio, a’r calch, sy’n cymryd carbon deuocsid o’r atmosffer am 3 mis ar ôl ei osod.”

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phlant ysgolion cynradd lleol ar brosiect i addurno waliau’r sied unwaith y bydd cyfyngiadau Covid yn cael eu codi. Diolch enfawr i Mark, Esme a’r holl gontractwyr a gwirfoddolwyr lleol a helpodd i adeiladu’r ddau strwythur rhyfeddol hyn. Mae’r toiledau compost yn hanfodol ar gyfer ein hymweliadau ysgol, gwersylloedd, a chysur ein holl ymwelwyr â’r safle. Mae’r sied storio gron yn llenwi’n gyflym ag offer ac adnoddau ar gyfer ein diwrnodau gwirfoddol a’n tasgau ar y tir. Mae’r ddau adeilad yn adnoddau amhrisiadwy ar gyfer prosiect Coetir Anian, a gwyddom y byddant yn para am nifer o flynyddoedd.

Er mwyn cysylltu neu weld mwy o waith Mark Vrionides’ ymwelwch gyda’i wefan.
Gallwch gysylltu gyda Esme Walker trwy anfon neges atom ni.