Mae prosiect newydd Coetir Anian (Cambrian Wildwood), wedi cael hwb wedi iddynt gael eu cyllido drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Mae’r gefnogaeth yma yn golygu fod yr elusen sy’n rhedeg y prosiect wedi medru penodi dau aelod staff newydd i ymuno â Chyfarwyddwr y Prosiect, Simon Ayres. Mae Clarissa Richards yn ymuno a’r tîm fel Arbenigwr Addysg yn dilyn blynyddoedd o weithio mewn ysgolion cynradd lleol. Mae Deiniol Jones, sy’n arbenigo mewn iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn ymuno fel Swyddog Prosiect yn dilyn gyrfa yn y diwydiant mwyngloddio.

 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Mat Mitchell; “Rydym yn hapus iawn i groesawu Deiniol a Clarissa. Rydym yn ffodus dros ben i allu denu pobl mor dalentog i weithio ar y prosiect. Mae’n gyffrous medru bwrw ’mlaen i ddarparu’r llu o fuddiannau y bydd y prosiect yn ei gynnig nawr fod yr arian a’r staff yn eu lle”.

 

Bydd y tri aelod staff yn gweithio i wireddu gweledigaeth ysbrydoledig ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Mae Coetir Anian wedi ei ganoli ar Fwlch Corog, ardal 140 hectar ger Glaspwll, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth. Mae’r tir, sy’n ddiraddedig yn ecolegol ac yn dir pori gwael, bron i gyd yn laswellt y bwla. Bydd rhostiroedd a thiroedd mawnog yn cael eu hadfer drwy flocio’r gwaith draenio, a thrwy gael ger o geffylau rhannol-wyllt yn pori arnynt. Mae hefyd 10 hectar o goetir hynafol ar y safle ac mae gorchudd coed yn cael ei gynyddu drwy blannu yn ogystal ag atffurfio naturiol.

 

Prynwyd Bwlch Corog gan Goed Cadw (Woodland Trust) yn 2017, ac mae ar brydles hirdymor i Sefydliad Tir Gwyllt Cymru (Wales Wild Land Foundation). Wrth i gynefinoedd gael eu hadfer, disgwylir y caiff bywyd gwyllt ei ddenu i’r safle. Mae niferoedd ac amrywiaeth adar a phryfed eisoes yn cynyddu. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio a oes modd ail gyflwyno llygod y dŵr a gwiwerod coch i’r safle.

 

“Ynghyd a’r gwaith adfer cynefinoedd rydym yn rhedeg rhaglen addysg arbennig,” esbonia Gydlynydd y Prosiect Simon Ayres. “Rydym yn gweithio gyda naw ysgol gynradd i gyflwyno themâu bywyd gwyllt i blant dros y tair blynedd nesaf drwy sesiynau celf, drama a cherddoriaeth yn y dosbarth, ynghyd ag ymweliadau i’r safle i ddysgu sgiliau defnyddiol. Bydd pob plentyn yn plannu mesen a thyfu derwen i’w blannu ar y safle nes ‘mlaen”.

 

“Byddwn yn cynnal nifer o wersylloedd ar gyfer plant yn eu harddegau. Byddant yn treulio pedair noswaith yn gwersylla, ac yn dysgu i gynnau tân drwy ffrithiant, chwilota a choginio, a chael amser anturiaethus yn cysylltu â natur. Mae’r gwersylloedd yma yn cael eu harwain gan arweinyddion ieuenctid sy’n llawn brwdfrydedd, felly bydd y plant yn cael profiad bythgofiadwy. Rydym yn falch iawn i gynnig cyfle i blant, sydd o bosib, ddim yn cael cyfle i brofi natur fel arall, y cyfle i gael cysylltiad go-iawn a natur i ffwrdd o gyfryngau cymdeithasol a dylanwadau bywyd bob dydd eraill. Mae ymateb y plant a’r ysgolion wedi bod yn bositif iawn”.

 

 

Mae’r rhaglenni ysgolion ac ieuenctid wedi eu hariannu yn gyfan gwbl sy’n golygu nad oes unrhyw gost i ysgolion neu awdurdodau lleol. Maent yn adnodd unigryw a chynhwysol sy’n cael ei gynnig i blant ar hyd a lled canolbarth Cymru. Hefyd, cynhelir diwrnodau gwaith ar gyfer gwirfoddolwyr yn rheolaidd, a chaiff nifer o ddigwyddiadau eraill eu cynnal, megis teithiau cerdded er lles iechyd.

 

Drwy reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaladwy, a thrwy y rhaglenni addysg, mae Coetir Anian yn helpu  i gyflawni polisïau’r Llywodraeth ar gyfer yr amgylchedd, addysg, iechyd a lles, a’r gymuned leol.