RHOSTIR

Gall bryniau tonnog rhostir ymddangos yn anghysbell, yn llwm neu’n ddifywyd hyd yn oed. Fodd bynnag, o fewn ei dryslwyni cyfrinachol, mae adar yn canu, ymlusgiaid yn llithro trwy fwsogl llaith, llygod pengrwn a llygod yn tyllu ac yn gwichian ymysg tyrau o laswellt. Yn yr awyr uwchben, mae’r ehedydd yn cyflwyno eu caneuon haf, ac mae’r boda tinwyn yn craffu’r llystyfiant am ginio.

O dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, cydnabyddir rhostiroedd a’r bioamrywiaeth y maent yn eu cefnogi, yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ar hyn o bryd, mae gwellt y gweunydd, rhywogaeth sy’n ffafrio pridd asidig sydd wedi’i ddraenio’n wael, yn dominyddu’r dirwedd ar ein safle ym Mwclh Corog. Wrth i’r amodau wella, rydym yn disgwyl gweld hyn yn dychwelyd i rostir grug, gan wella bioamrywiaeth y safle a chyfannu’r ddwy rostir grug presennol SSSI cyfagos.

Mae rhostir yn derm cyffredinol, sy’n cwmpasu’r clytwaith o gynefinoedd llai, gyda phob microgynefin yn gartref i wahanol rywogaethau. Yn dal a thrwchus, ffafrir grug gan y boda tinwyn i nythu, y llystyfiant trwchus yn amddiffyniad rhag yr elfennau, yn ogystal ag rhag ysglyfaethwyr fel y llwynog coch. Mae angen y gorchudd hanfodol hwn ar rywogaethau adar eraill, fel y cudyll bach, y dylluan glustiog a’r rugiar goch hefyd, yn ogystal â mamaliaid bach fel llygod a llygod pengrwn y cae, ac ymlusgiaid fel madfallod, pryfed genwair a gwiberod.

Mae’r cwtiad aur, y gornchwiglen a’r gylfinir yn ffafrio ardaloedd agored o rostir. Tra bod ardaloedd rhostir corsiog llaith yn denu adar hirgoes fel gïach a phibydd coesgoch, ac maent hefyd yn cynnal mwsoglau migwyn ac yn eu tro gweision y neidr, pryfed craen a phryfed lled-ddyfrol eraill. Wrth i’r tymhorau droi, mae prif drigolion cynefinoedd rhostir yn mynd a dod. Gall y rugiar goch gwydn gaeafu yma, a gyda thywydd cynhesach y gwanwyn, daw adar hirgoes i nythu.

Mae cyfoeth o fflora lliwgar yn cyd-fynd â’r gwrid porffor o rostir grug trwy gydol y flwyddyn. Mae blodau gwyllt yn addurno’r rhostir yn y gwanwyn: fioled y gors, grug y mêl a helyglys hardd, i enwi ychydig o rywogaethau sy’n denu gloÿnnod byw a pheillwyr hanfodol eraill. Mae’r rhestr o blanhigion sy’n gyffredin i rostiroedd yn helaeth ac yn amrywio o gymylau o blu’r gweunydd i’r gwlithlys gludiog.

Cronfa ddŵr naturiol yw’r rhostir. Mae ardaloedd yr ucheldir yn derbyn y crynodiad uchaf o law sy’n cael ei amsugno gan y rhostir mwsoglyd cyn cael ei hidlo yn ôl i afonydd a nentydd, rheolaeth naturiol bwysig sy’n helpu i atal llifogydd. Mae cors blanced yn gynefin mawndir sy’n datblygu mewn ardaloedd lled oer gyda glawiad trwm. Mae tir dyfrlawn, wedi’i fwydo gan ddŵr glaw, yn caniatáu i weddillion planhigion gronni, gan ffurfio mawn dwfn yn y pen draw sy’n gorchuddio, neu ‘flancedi’, darnau mawr o dir. Yn aml, bydd mawn yn cael ei ecsbloetio at ddibenion garddwriaethol, ac mewn safleoedd a reolir yn wael mae draenio a glawiad yn effeithio ar fawn. Oherwydd ei fod yn ffurfio dros oddeutu 5000 o flynyddoedd, mae’n anadferadwy, yn ogystal â bod yn amsugnwr carbon pwysig. Mae mwsoglau migwyn sy’n doreithiog mewn rhostir hefyd yn drapiau carbon hanfodol. Bydd clytiau o rostir hardd, hanfodol, a llawn bywyd, yn bresennol yng Nghoetir Anian, hafan ar gyfer aelodau amrywiol y cynefin deinamig hwn.

 

English